Wendy Barbour
Cyfarwyddwr Cyllid
Ar ôl graddio o Brifysgol Strathclyde gyda gradd mewn Technoleg ac Astudiaethau Busnes, ymunodd Wendy â SSE fel hyfforddai graddedig ym 1989. Gweithiodd trwy amrywiaeth o rolau marchnata, cyllid a masnachol, cyn symud ymlaen yn 2007 i fod yn Bennaeth Marchnata. Mae hi hefyd wedi rheoli a chyflawni llawer o fentrau M&A sylweddol ac wedi rhedeg busnes Retail Telecoms SSE am nifer o flynyddoedd. Ym mis Ebrill 2013, daeth Wendy yn Gyfarwyddwr Gemau’r Gymanwlad a Nawdd a bu’n gyfrifol am gyflawni rhaglen CWG2014 SSE yn llwyddiannus ac arweiniodd y trafodaethau cytundebol a chyflawni ar gyfer eiddo SSE Hydro/Arena ynghyd ag amrywiol asedau nawdd eraill. Bellach Wendy yw Cyfarwyddwr Mentrau Cwsmeriaid SSE gan arwain proffidioldeb busnes Ynni Domestig.