A once in a lifetime opportunity to be part of Team Wales…

Rydyn ni'n edrych am Chef de Mission ar gyfer Birmingham 2022!

Gydag ychydig dros 18 mis i fynd nes i Dîm Cymru esgyn ar Birmingham i gystadlu yn 23ain Gemau'r Gymanwlad, rydym yn chwilio am rôl uwch allweddol a fydd yn ysbrydoli ac yn arwain Tîm Cymru yn y Gemau.

 

Rôl y Chef de Mission

Y Chef de Mission yw rheolwr chwaraeon Tîm Cymru sy'n adrodd i Brif Swyddog Gweithredol CGW ac mae ganddo/hi berthynas waith agos â Chadeirydd CGW. Yn ystod y Gemau yn benodol, bydd y Cadeirydd, y Prif Swyddog Gweithredol a'r Chef de Mission yn cydweithredu'n agos.

Bydd y Chef de Mission yn arwain ac yn ysbrydoli Tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad Birmingham.

Bydd y Chef de Mission yn creu amgylchedd ysbrydoledig yng Ngemau Birmingham 2022 gan alluogi'r athletwyr a'r tîm i ragori.

Yn ystod y Gemau, bydd y Chef de Mission wedi’i leoli ym Mhentref yr Athletwyr. Bydd y Chef de Mission yn arweinydd profedig, yn gallu ysbrydoli hyder yn nhîm CGW, y cyfryngau, trefnwyr y digwyddiad a holl randdeiliaid eraill.

 

Priodoleddau allweddol

Profiad Gemau Aml-Chwaraeon (nid o reidrwydd fel Chef de Mission)

Credadwyedd o fewn yr amgylchedd chwaraeon, yn enwedig gyda'r CRhC

Trefnus iawn gyda sgiliau cynllunio manwl

Yn gallu gweithredu dan bwysau

Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol tuag i fyny, yn ogystal ag i'r tîm staff

Y gallu i uniaethu ag, ac ymgysylltu ag, ystod eang o randdeiliaid

Credadwyedd gyda chyfryngau chwaraeon allweddol

 

Dywedodd Helen Phillips MBE, Cadeirydd Gemau'r Gymanwlad Cymru:

‘Rydym yn chwilio am rywun arbennig sy’n ysbrydoli, cymell ac ymgysylltu â’r holl athletwyr a staff cymorth sy’n cynrychioli Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad Birmingham 2022.

Rydym am benodi arweinydd rhagorol a all oruchwylio'r hyn sydd bellach yn fodel cyflawni mwy cymhleth na gemau blaenorol. Mae staff Tîm Cymru eisoes yn gwneud gwaith gwych gyda'r holl gynllunio gweithredol i sicrhau bod gan yr athletwyr amgylchedd perfformio o'r radd flaenaf pan fyddant yn cyrraedd y pentrefi athletwyr.

Ar ôl yr heriau parhaus mae'r dirwedd chwaraeon yn profi ei bod hi'n braf cael cyfle cyffrous i'r sector ei ystyried. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r pwyllgor trefnu ac yn parhau i fod yn frwd dros Gemau Gymanwlad wych ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu'r Chef de Mission i'r tîm.'

Dyddiad Cau: 11 Ionawr 2021

Gwelir y fanyleb swydd lawn yma