Cymdeithas Adeiladu’r Principality yn cael ei chyhoeddi’n bartner swyddogol Tîm Cymru

Mae cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru, Cymdeithas Adeiladu’r Principality wedi cyhoeddi partneriaeth gyfyngol newydd gyda Thîm Cymru.

Mae’r bartneriaeth yn sail i ymrwymiad y Gymdeithas i gefnogi a grymuso cenedlaethau’r dyfodol, trwy ysbrydoli pobl ifanc yng Nghymru i fagu’r hyder, gwybodaeth a sgiliau bywyd i’w helpu i fyw, dysgu ac ennill

Yn unol â’i huchelgais symudedd cymdeithasol i helpu i ddod o hyd i, ariannu ac ehangu mynediad at gyfleoedd gwaith i bobl ifanc heb gynrychiolaeth ddigonol, bydd y Gymdeithas yn cefnogi cyflwyno Rhaglen Ymgysylltu Ieuenctid Tîm Cymru yn weithredol.

Mae’r rhaglen ddwyieithog hon wedi’i chynllunio i gryfhau cysylltiadau â grŵp amrywiol o fyfyrwyr mewn 200 o ysgolion cynradd, uwchradd ac arbenigol a grwpiau chwaraeon ac ieuenctid ledled Cymru dros y tair blynedd nesaf.

Bydd athletwyr Tîm Cymru o dros 20 o gampau posib Gemau’r Gymanwlad yn cyflwyno gweithdai ystafell ddosbarth wedi’u teilwra, gwasanaethau, sesiynau holi ac ateb a chyflwyniadau. Bydd y sesiynau hyn yn cyfuno gwerth a phwysigrwydd ymgysylltu â chwaraeon gyda themâu megis amrywiaeth a chynhwysiant, iechyd a lles corfforol a meddyliol, addysg ariannol, sgiliau menter a chynaliadwyedd.

Dywedodd Tony Smith, Prif Swyddog Effaith a Llywodraethu Cymdeithas Adeiladu’r Principality, “Mae’r cydweithrediad hwn yn gam cadarnhaol ymlaen i ni gyrraedd ac ymgysylltu â mwy o bobl ifanc heb gynrychiolaeth ddigonol ledled Cymru. Rydyn ni eisiau helpu cenedlaethau’r dyfodol i gael y dechrau gorau mewn bywyd, i wireddu eu gobeithion a’u dyheadau, a’u hysbrydoli ar y cyd am lwybrau’r dyfodol, nid yn unig mewn chwaraeon, ond hefyd mewn addysg bellach a’r byd gwaith ehangach.”

Gan rannu ei brwdfrydedd, dywedodd Rebecca Edwards-Symmons, Prif Swyddog Gweithredol Tîm Cymru: “Mae Tîm Cymru a Chymdeithas Adeiladu’r Principality ill ddau yn ffynnu ar ein diwylliant Cymreig ac angerdd dros gefnogi cenedlaethau’r dyfodol, sy’n ein gwneud ni’n dîm perffaith. Rydw i wrth fy modd mai nhw yw ein partner Cymdeithas Adeiladu swyddogol, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’r tîm ar sawl prosiect cyffrous dros y tair blynedd nesaf.’