Høpp studio
Mae Høpp Studio yn dîm amlddisgyblaethol o strategwyr, datblygwyr a gweithwyr creadigol. Eu nod yw sbarduno newid gwirioneddol a chadarnhaol. Mae bwriad yn gefn i bopeth a wnânt. Bydd eu tîm yn dechrau trwy wrando a dysgu, gan lunio’r strategaethau gorau i lywio penderfyniadau a chreu negeseuon effeithiol. Trwy ddeall beth sy’n arbennig am eich brand chi, byddan nhw’n adeiladu brand cryf a pherthnasol ar y sylfeini hynny. Maen nhw’n defnyddio gwaith ymchwil mewn ffordd greadigol er mwyn diffinio a datblygu’r gwirioneddau sy’n peri pobl i ymwneud â brandiau a sefydliadau. Gall eu gwaith ymchwil a’u rhaglenni ymgynghori pwrpasol a hyblyg drawsnewid brandiau a llywio prosiectau cyhoeddus. Boed eich bryd ar ddigideiddio neu ar ddylunio traddodiadol, byddan nhw’n cysoni eich amcanion ledled gwefannau, rheoli cysylltiadau cwsmeriaid, testun, ac arddangosfeydd.