Hopp Studio yw partner diweddaraf Tîm Cymru
Cwmni Cymreig yn darparu arbenigedd digidol i Gemau’r Gymanwlad Cymru
Hopp Studio, busnes sy’n adeiladu rhaglenni digidol cyffrous, deinamig ar gyfer brandiau chwaraeon, iechyd a hamdden fydd 14eg partner Tîm Cymru o fewn y flwyddyn ddiwethaf.
Bydd yr asiantaeth brandiau digidol a strategol yn cefnogi Tîm Cymru i ddatblygu ei wefannau a’i eiddo digidol ar draws y sefydliad.
Mae Hopp Studio, a sefydlwyd yn 2016, ac sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, yn asiantaeth ddigidol sy’n arbenigo mewn prosiectau trawsnewid, a mwy a mwy ohonynt yn y sector chwaraeon, gan ddefnyddio technoleg flaengar a mewnwelediadau data. Eu harbenigedd yw creu profiadau digidol o’r radd flaenaf sy’n meithrin ymgysylltiad a chymuned ar draws y teulu chwaraeon, o gefnogwyr, i athletwyr, hyfforddwyr a chyrff llywodraethu.
Meddai sylfaenydd Stiwdio Hopp, Mike Phillips, ‘Rydyn ni’n falch iawn o ddod â’r arbenigedd hwn i Dîm Cymru a’u cefnogi i gyflawni eu nodau. Mae ethos ein tîm, lle rydyn ni’n herio ac yn gwthio ein hunain er mwyn sicrhau perfformiad o ansawdd uchel yn cyd-fynd yn berffaith â’r meddylfryd chwaraeon. Mae llawer o’n gwaith gyda brandiau arloesol sy’n mynd â sgiliau, arloesedd ac egni Cymru allan i gynulleidfaoedd rhyngwladol ehangach. Mae’n fraint ehangu hynny nawr gyda’n partneriaeth â Tîm Cymru.’
Ychwanegodd Prif Swyddog Gweithredol Tîm Cymru, Rebecca Edwards-Symmons, ‘Mae’r byd digidol yn esblygu’n gyson ac mae croesawu Hopp Studio Ltd fel ein partner newydd, gyda ffocws ar bobl greadigol ddigidol yn hollbwysig i ni barhau i symud ymlaen, ac mae’n siŵr y bydd eu harbenigedd yn cefnogi ein tîm, yn athletwyr ac yn staff cymorth y tu ôl i’r llenni.’