Tîm Cymru yn ymuno â Met Caerdydd gyda lansiad ArcHER

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi lansio rhaglen newydd, a gynhelir ar Gampws Cyncoed, sydd â’r nod o addysgu’r rheini yn y sector chwaraeon i gael gwell dealltwriaeth o’r corff benywaidd.

Ymunodd Met Caerdydd, sy’n brif bartner gyda Thîm Cymru, ar gyfer digwyddiad panel Clwb Busnes Tîm Cymru yn ystod y dydd, gan ganolbwyntio ar fenywod mewn arweinyddiaeth, a oedd yn cynnwys Rebecca Edwards-Symmons, Prif Weithredwr Tîm Cymru; Dr Emma Ross o The Well HQ; Suzy Drane, cyn gapten pêl-rwyd Cymru; Sarah Jones, chwaraewr hoci Cymru a Phrydain Fawr; a Llywydd Undeb Myfyrwyr Met Caerdydd, Natalia-Mia Roach.

Dywedodd Prif Weithredwr Tîm Cymru, Rebecca Edwards-Symmons, ‘Roedd yn wych gallu ymuno â Met Caerdydd i lansio ArcHER. Mae deall y corff benywaidd mewn chwaraeon yn hanfodol i gefnogi merched mewn gweithgarwch corfforol, ac mae’r mynediad sydd ar gael heddiw wedi bod yn rhagorol, o gyngor un i un a thrafodaethau panel i fesur maint eich bra. Gwych.

 

Roedd hefyd yn wych i Glwb Busnes Tîm Cymru fod yn rhan o’r diwrnod. Dyma ein hail ddigwyddiad clwb busnes sydd wedi’i gynnal yn y brifysgol, ac roedd yn wych croesawu ein partneriaid a’n gwesteion i ymweld â phencadlys ein prif bartner.’