Royal Mint
Gyda hanes sy’n ymestyn dros fwy na 1,100 o flynyddoedd, mae’r Bathdy Brenhinol yn un o gwmnïau hynaf Prydain ac yn wneuthurwr gwreiddiol darnau arian y DU. Heddiw mae’r Bathdy Brenhinol yn wneuthurwr Prydeinig premiwm sy’n darparu darnau arian wedi’u crefftio’n ofalus a chynhyrchion metel gwerthfawr ar gyfer y DU a thramor. Wedi’i leoli yn Llantrisant, De Cymru mae ganddo dri phrif ffocws fel busnes: Arian cyfred, Cwsmeriaid (darnau arian casgladwy a rhai hanesyddol, prin) a buddsoddi mewn metelau gwerthfawr.
Casglu gyda’r Bathdy Brenhinol:
Mae pob darn arian yn adrodd stori, o sofran aur prin i ddarn arian 50c Peter Rabbit™. Nod y Bathdy Brenhinol yw ysbrydoli casglwyr hen ac ifanc a meithrin cariad at gasglu trwy ddyluniadau unigryw a themâu poblogaidd. Fel gwneuthurwr darnau arian y DU, mae gennym wybodaeth heb ei debyg am ddarnau arian, o ddarnau arian hanesyddol ein gorffennol, hyd at ddarnau arian coffa casgladwy heddiw. Mae cyrchu a dilysu darnau arian o’r cyfnod cyn cyflwyno arian degol yn waith naturiol i’r Bathdy Brenhinol gan mai ni wnaeth fathu pob un.
Buddsoddi gyda’r Bathdy Brenhinol:
Fel awdurdod byd-eang ar fetelau gwerthfawr, mae’r Bathdy Brenhinol wedi masnachu a gwneud cynhyrchion mewn aur ac arian ers canrifoedd. Ers lansio ei adain buddsoddi metelau gwerthfawr chwe blynedd yn ôl, mae’r Bathdy Brenhinol wedi tyfu’n gyflym i fod yn gartref i aur yn y DU – gan gynyddu ei gyfran o’r farchnad a datblygu i fod y cynhyrchydd mwyaf o ddarnau arian bwlion ym Mhrydain. Yn ogystal â chynnig opsiynau buddsoddi metel gwerthfawr ffisegol ar ffurf bariau a darnau arian, mae’r Bathdy Brenhinol hefyd yn cynnig ystod o opsiynau buddsoddi digidol gan gynnwys DigiGold, Little Treasures, a gynlluniwyd ar gyfer plant, a Gold for Pensions.
Dathlu gyda’r Bathdy Brenhinol:
Ers dros fil o flynyddoedd mae’r Bathdy Brenhinol wedi nodi’r achlysuron a newidiodd y byd ar ddarnau arian – o goroniadau i wrthdaro, o goffau i ddathliadau. Mae’r dyluniadau i’w gweld ar ddarnau arian coffaol, wedi’u bathu mewn ystod o fetelau. Nid yw darnau arian coffa bob amser yn cael eu cylchredeg, ond maent yn rhoi cyfle i gasglwyr brynu darnau arian i’w cadw a’u trysori. Mae themâu diweddar wedi cynnwys David Bowie, Winnie the Pooh, Decimalisation a Team GB. Mae pob darn arian coffa yn cael ei daro’n ofalus hyd at dair gwaith er mwyn creu gorffeniad manwl ardderchog, a sicrhau bod pob un yn bodloni’r safonau y mae’r Bathdy Brenhinol yn enwog amdanynt.
Profiad y Bathdy Brenhinol
Agorodd y Bathdy Brenhinol ei ganolfan ymwelwyr boblogaidd, Profiad y Bathdy Brenhinol, yn ei gartref yn Llantrisant, De Cymru yn 2016. Ers agor, mae’r atyniad arobryn wedi croesawu tua 400,000 o ymwelwyr a dyma’r lle i archwilio hanes 1,100 mlynedd o ddarnau arian.