Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cael ei rhestru fel y brifysgol orau yn y DU ar gyfer cynaliadwyedd yng Nghynghrair Werdd 2022/23 People & Planet. Cynghrair Werdd People & Planet yw’r unig dabl cynghrair cynhwysfawr ac annibynnol o holl brifysgolion y DU sy’n eu rhestru yn ôl perfformiad amgylcheddol a moesegol. Yn ogystal â’r anrhydedd hon, mae Met Caerdydd newydd gael ei rhestru fel prifysgol haen aur yn Adroddiad Prifysgolion Gwyrdd 2022 Uswitch, sy’n tynnu sylw at ymrwymiad prifysgolion y DU i gynaliadwyedd.
Yn 2021, dyfarnodd Times Higher Education (THE) deitl Prifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon i Met Caerdydd. Roedd y teitl yn cydnabod Met Caerdydd fel prifysgol flaengar gyda phrofiad rhagorol i fyfyrwyr, diwylliant staff ac ymchwil ac arloesedd effeithiol.
Dyfarnwyd teitl Prifysgol y Flwyddyn Cymru 2021 i Met Caerdydd hefyd gan The Times and The Sunday Times Good University Guide gan gydnabod cynnydd y Brifysgol o ran cyflawni ei strategaeth uchelgeisiol a’i chyfres o ddatblygiadau dros y blynyddoedd diwethaf.
Met Caerdydd oedd y brifysgol gyntaf yng Nghymru i gael ei dynodi’n Brifysgol Noddfa ac mae ganddi hanes sefydledig o ddarparu ‘Ysgoloriaethau Noddfa’ i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig, a staff academaidd. Ym mis Hydref 2022, ail-achredwyd Met Caerdydd fel Prifysgol Noddfa, gyda City of Sanctuary UK yn disgrifio’r sefydliad fel “… enghraifft wych o sefydliad sy’n croesawu i ysgolheigion ac academyddion sy’n wynebu risg”.
Yn 2022 cyfrannodd Prifysgol Metropolitan Caerdydd £400,000 i gefnogi rôl addysg yn y broses o adeiladu heddwch yn Wcráin. Mae’r Brifysgol hefyd wedi llofnodi cytundeb gefeillio gyda Phrifysgol Addysgeg Genedlaethol H.S. Skovoroda Kharkiv (Prifysgol Skovoroda) – gan hwyluso rhannu adnoddau a dangos cefnogaeth a chydweithio dwyochrog i helpu sefydliadau, staff a myfyrwyr Wcráin.
Prifysgol Metropolitan Caerdydd yw’r brifysgol gyntaf yn y DU i ddadfuddsoddi o bob cwmni sy’n elwa o drais ffiniol. Mae ein Polisi Buddsoddi Moesegol yn nodi na fydd Met Caerdydd fyth yn buddsoddi yn y diwydiant ffiniau.
Mae gan Fet Caerdydd bwrpas cryf – darparu addysg, ymchwil ac arloesedd o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar ymarfer ac a gydnabyddir yn broffesiynol mewn partneriaeth â’n myfyrwyr a’n diwydiant.
Elfen allweddol o gynnig y Brifysgol i fyfyrwyr yw ‘Cardiff Met EDGE’ – cynnig craidd sy’n galluogi pob myfyriwr i ddatblygu sgiliau, profiad, gwybodaeth, hyder a gwytnwch Moesegol, Digidol, Byd-eang ac Entrepreneuriaidd.
Mae gan Met Caerdydd bum ysgol academaidd ar draws dau safle yn Llandaf a Chyncoed yng Nghaerdydd: Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd; Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd; Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd; Ysgol Reoli Caerdydd, ac Ysgol Technolegau Caerdydd, yn ogystal â Chanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE, y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Ymchwil Dylunio (PDR) a’r Ganolfan Ymchwil Iechyd, Gweithgaredd a Lles (CAWR), canolfan ymchwil ddiweddaraf Met Caerdydd.
Mae gan y Brifysgol dros 26,000 o fyfyrwyr o dros 100 o wledydd wedi cofrestru ar raglenni yng Nghaerdydd ac 16 o bartneriaid cydweithredol ledled y byd, lle mae myfyrwyr yn astudio ar gyfer graddau Met Caerdydd. Nod ei hymrwymiad i wella rôl addysg mewn cysylltiadau rhyngwladol a diplomyddiaeth ddiwylliannol yw galluogi myfyrwyr i ddatblygu’n ddinasyddion byd-eang.
Y Brifysgol yw’r gyntaf yng Nghymru i dderbyn y Siarter Busnesau Bach a’r Marc Menter Gymdeithasol i gydnabod ei gwaith gyda busnes, a’i hymrwymiad i gefnogi myfyrwyr mewn gweithgareddau menter ac entrepreneuriaeth.
Gyda hanes cryf o fentrau cynaliadwy a ‘chymwysterau gwyrdd’, dringodd Met Caerdydd 63 o leoedd yn nhabl cynghrair annibynnol cynaliadwyedd People & Planet 2021, gan ddod yn gyntaf yng Nghymru a chyd-5ed yn y DU. Mae’r Brifysgol bellach yn datblygu Uwchgynllun i wireddu Sero Net ar gyfer ei champysau erbyn 2030.
Mae Academïau Byd-eang Met Caerdydd (Iechyd a Pherfformiad Dynol; Gwyddor Bwyd, Diogelwch a Diogelu; a Dylunio sy’n Canolbwyntio ar Bobl) yn dod ag arbenigedd ymchwil ynghyd i ddatblygu dulliau rhyngddisgyblaethol, rhyngwladol ac effeithiol o ymdrin â rai o’r heriau mwyaf sefydledig sy’n effeithio arnom yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.