Gareth Davies yw eu Cadeirydd newydd
Mae Cyfarwyddwr Cwpan y Byd Rygbi Gareth Davies wedi cael ei benodi’n Gadeirydd Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad Cymru.
Bydd Gareth yn olynu Helen Phillips fel Cadeirydd ar unwaith pan fydd ei thymor yn y swydd yn dod i ben.
Bydd Gareth yn arwain Bwrdd Gemau’r Gymanwlad Cymru i Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yr haf hwn yn Nhrinidad a Thobago a Gemau’r Gymanwlad yn Victoria, 2026.
Mae gan gyn-gadeirydd Undeb Rygbi Cymru brofiad helaeth o arwain yn llwyddiannus ar y lefel uchaf, gan gynnwys ei rôl bresennol fel Cyfarwyddwr Cwpan y Byd Rygbi, Deon y Brifysgol yn Leeds, Pennaeth Busnes Cymru Rhyngwladol ar gyfer Llywodraeth Cymru yn Awstralia a Seland Newydd, Golygydd Comisiynu ar gyfer S4C a Phennaeth Chwaraeon BBC Cymru.
Mae chwaraeon wedi dylanwadu’n fawr ar ei yrfa ac mae ganddo CV ardderchog sy’n cynnwys llwyddiant gartref ac yn rhyngwladol mewn Rygbi gan iddo chwarae i Glwb Rygbi Caerdydd, ennill 21 cap i Gymru a theithio gyda’r Llewod Prydeinig a Gwyddelig yn Ne Affrica ym 1980.
Yn sgil ei benodiad fel y Cadeirydd newydd, meddai Gareth Davies “Rwy’n falch iawn o fod yn ymgymryd â rôl Cadeirydd Gemau’r Gymanwlad Cymru – wrth i ni ymdrechu i gael Gemau Ieuenctid cofiadwy a llwyddiannus yr haf hwn yn Nhrinidad a Thobago ac yng ngemau 2026 yn Victoria, Awstralia. Rwy’n ymwybodol o’r gwaith gwych a wnaed yn y blynyddoedd diwethaf gan fy rhagflaenydd Helen Phillips ac rwy’n benderfynol o adeiladu ar y llwyddiant hwnnw”
Yn ôl Cadeirydd presennol Gemau’r Gymanwlad Cymru, Helen Phillips MBE, “Roeddem wedi ein syfrdanu bod gymaint o ddiddordeb yn rôl y Cadeirydd. Mae hi wedi bod yn anrhydedd Cadeirio’r sefydliad gwych hwn ers 2014 gyda chefnogaeth bwrdd anhygoel. Rwyf wrth fy modd fy mod yn trosglwyddo arweinyddiaeth y bwrdd i Gareth. Mae parch ac edmygedd tuag at Gareth ledled y byd chwaraeon ers degawdau. Mae’n gadeirydd profiadol a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar y strategaeth newydd sy’n cael ei chreu a bydd yn datblygu’r gwaith gwych a wnaed gennym o ran Llywodraethu Chwaraeon.
Rwy’n gwybod y bydd angerdd Gareth tuag ar Gemau’r Gymanwlad yn gwthio ein huchelgais ymhellach ac yn sicrhau bod ein hathletwyr yn cael y cyfle gorau posibl i ddisgleirio wrth gynrychioli ein cenedl arbennig.”