Bydd pedwerydd diwrnod Taith Baton y Brenin yng Nghymru yn tynnu sylw at dirweddau dramatig y rhanbarth a’r cysylltiad cryf â’r môr, wrth i’r Baton deithio o uchelfannau Chwarel y Penrhyn i ddyfroedd arfordirol Porthdinllaen.
Bydd y diwrnod yn dechrau gydag un o gludwyr y Baton yn mynd ar wifren sip eiconig Chwarel y Penrhyn, gan gario’r Baton ar draws un o dirweddau mwyaf trawiadol gogledd Cymru ac yn gosod y cywair ar gyfer diwrnod sy’n dathlu harddwch naturiol a balchder cymunedol.
Yna bydd y Daith yn parhau i’r gorllewin i draeth Porthdinllaen, lle bydd rhaglen o weithgareddau prynhawn yn canolbwyntio ar gadwraeth y môr ac ymgysylltu â’r gymuned.
Mae’r digwyddiad yn dechrau am 12:00pm, gan ddod â hyrwyddwyr cymunedol, gwirfoddolwyr a chynrychiolwyr Tîm Cymru ynghyd i ddathlu treftadaeth a phwysigrwydd yr amgylchedd morol lleol. Bydd cludwyr y Baton yn ei gario ar hyd y traeth ac i’r dŵr, gan adlewyrchu’r cysylltiadau diwylliannol ac amgylcheddol dwfn rhwng cymunedau Cymru a’r môr.
Bydd y gweithgareddau’n cynnwys helfa wyau siarcod a morgathod o dan arweiniad gwirfoddolwyr Prosiect SIARC, a hefyd sesiynau snorcelu i weld dolydd morwellt lleol. Bydd cynrychiolwyr o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a phrosiect Achub Cefnforoedd Morwellt yn cymryd rhan yn y gweithgareddau dŵr, gan dynnu sylw at ymdrechion parhaus i ddiogelu ac adfer cynefinoedd morol hanfodol.
Yna bydd cludwyr ifanc y Baton yn snorcelu ar draws y dolydd morwellt cyn trosglwyddo’r Baton i gwch gwynt gyda chriw o aelodau Clwb Tanddwr Prydain tua 2:30pm. Yna bydd y Baton yn cael ei gario i’r môr, gan nodi parhad symbolaidd y Daith ar hyd arfordir Cymru.
Dywedodd Rebecca Edwards-Symmons, Prif Swyddog Gweithredol Tîm Cymru:
“Mae hon yn foment wirioneddol arbennig i Gymru, gan ddod â’n tirweddau, ein cymunedau a’n harfordir at ei gilydd fel rhan o ddathliad byd-eang, ac mae arddangos gweithgareddau fel snorcelu, cadwraeth a chyfranogiad cymunedol yn tynnu sylw at sut y gall chwaraeon ein cysylltu â lle ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.”
Meddai Reece Halstead, Cydlynydd Llythrennedd Môr Cymru i’r Môr a Ni:
“Mae gan bawb yng Nghymru berthynas â’r môr, p’un a ydyn ni’n sylweddoli hynny ai peidio. Mae’n wych gweithio gyda Thîm Cymru i arddangos y cysylltiadau rhwng chwaraeon, natur a’n cymunedau arfordirol drwy weithgareddau fel chwilio’r traeth, snorcelu a deifio. Po fwyaf o gyfleoedd sydd gan bobl i brofi ein moroedd mewn ffordd ddiogel, y mwyaf tebygol ydyn nhw i’w gwerthfawrogi a helpu i’w diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Mae Taith Baton y Brenin yn draddodiad byd-eang sy’n uno pob un o’r 74 o genhedloedd a thiriogaethau’r Gymanwlad trwy gymuned, diwylliant a chwaraeon. Wedi’i lansio gan Ei Fawrhydi y Brenin Siarl III ym Mhalas Buckingham ym mis Mawrth 2025, bydd y Daith yn dod i ben gyda Seremoni Agoriadol Gemau’r Gymanwlad Glasgow 2026 ar 23 Gorffennaf 2026