Bydd y diwrnod yn dechrau yn Aberhonddu, gyda’r daith yn dechrau am 9:00am yn Brynich Lock (LD3 7UY). Oherwydd prinder llefydd parcio yn y lleoliad cychwyn, rydym yn annog pobl sy’n dod i wylio i ymgynnull ym masn y gamlas yn Aberhonddu, lle gellir gweld y daith o 10:00am ymlaen. Bydd cymal Aberhonddu yn dod i ben am 10:30am yn Theatr Brycheiniog.

Yn y prynhawn, bydd y daith yn parhau yng Nghwm Elan. Bydd Taith Baton Cwm Elan yn dechrau am 1:00pm ar ben yr argae cyntaf, Caban Coch (LD6 5HP), ac yn gorffen am 2:30pm. Ar ôl y digwyddiad bydd dathliadau cymunedol, gan gynnig cyfle i drigolion ac ymwelwyr ddod at ei gilydd a mwynhau’r achlysur.

Dywedodd y Cynghorydd Glyn Preston, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys Mwy Llewyrchus:
“Mae’r digwyddiadau hyn yn gyfle gwych i ddod â’n cymunedau at ei gilydd wrth ddathlu llwyddiant chwaraeon lleol a rhyngwladol. Mae’r ffaith eu bod yn digwydd ar Sul y Tadau yn eu gwneud hyd yn oed yn fwy arbennig, a byddwn yn annog trigolion i ddod ynghyd â’u teuluoedd a bod yn rhan o’r achlysur cofiadwy hwn.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Raiff Devlin, Aelod Cabinet dros Gwsmeriaid, Gwasanaethau Digidol a Chymunedol:
“Rydym ni’n falch o gynnal digwyddiadau mor ysbrydoledig yma ym Mhowys. Gyda chymaint o gludwyr y baton yn cymryd rhan ac athletwyr o’r radd flaenaf yn bresennol, bydd rhywbeth i bawb ei fwynhau. Mae’n ffordd wych o ddathlu Sul y Tadau trwy dreulio amser gyda’n gilydd a chefnogi ein cymunedau.”

Ychwanegodd Rebecca Edwards-Symmons:
“Mae Taith Baton y Brenin yn symbol pwerus o undod ac ysbrydoliaeth. Mae ei weld yn teithio drwy Bowys, gan gysylltu ein cymunedau o Aberhonddu i Gwm Elan, yn foment wirioneddol arbennig. Edrychwn ymlaen at groesawu trigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd i ddathlu, cefnogi ein cludwyr baton, a mwynhau popeth sydd gan y digwyddiadau hyn i’w gynnig.”

Cefnogir y daith gan Glandŵr Cymru, Theatr Brycheiniog a Dragonfly Cruises yn Aberhonddu, yn ogystal â Dŵr Cymru a Chanolfan Ymwelwyr Cwm Elan.