Mae heddiw’n garreg filltir bwerus ar y ffordd i Gemau’r Gymanwlad 2026 – dim ond 100 diwrnod nes i Dîm Cymru gyrraedd Glasgow, yn barod i gystadlu gyda balchder, angerdd a phwrpas.
Rhwng 23 Gorffennaf a 2 Awst 2026, bydd y byd yn ymgynnull unwaith eto wrth i athletwyr o bob cwr o 74 o genhedloedd y Gymanwlad gystadlu mewn rhaglen ddeinamig o chwaraeon, gan gynnwys rhaglen chwaraeon Para arloesol, gan atgyfnerthu ymrwymiad y Gemau i gynhwysiant a rhagoriaeth.
Mae gan Dîm Cymru le unigryw yn hanes Gemau’r Gymanwlad – yn falch o gystadlu ym mhob un ers y Gemau cyntaf yn 1930. Mae’r etifeddiaeth honno’n parhau yn Glasgow, wedi’i gario ymlaen gan genhedlaeth newydd o athletwyr wedi’u hysbrydoli gan y rhai a aeth o’u blaenau.
I nodi 100 diwrnod i fynd, mae Tîm Cymru yn dechrau ei ymgyrch yn Glasgow mewn ffordd amlwg Gymreig — gyda stori, symbol ac ysbryd.
Wrth wraidd y foment hon mae cerdd a gomisiynwyd yn arbennig gan y bardd adnabyddus Aneirin Karadog, o’r enw ‘Draig Darogan’ ac mae’n dod yn fyw yn Gymraeg a Saesneg gan yr actor a’r canwr Huw Euron.
Mae’r gerdd yn canolbwyntio ar un symbol parhaol – y ddraig – grym hunaniaeth, gwytnwch, a thân sy’n cysylltu pob athletwr Cymreig â’u gwreiddiau ac â’i gilydd.
Mae’r gerdd hefyd yn dilyn cyflwyniad swyddogol Gwen, masgot draig Tîm Cymru ar gyfer Glasgow 2026 – ymgorfforiad bywiog o ysbryd, cryfder a balchder cenedlaethol y tîm.
Dywedodd Chef de Mission Tîm Cymru, Gethin Jones:
“Gyda 100 diwrnod i fynd, mae’r cyffro wir yn cynyddu. Mae hon yn eiliad arbennig i Dîm Cymru — cyfle i fyfyrio ar ein hanes anhygoel yng Ngemau’r Gymanwlad ac edrych ymlaen at yr hyn sy’n addo bod yn ymgyrch ysbrydoledig a bythgofiadwy yn Glasgow.
Mae lansiad ein hymgyrch drwy farddoniaeth a pherfformiad yn dal hanfod yr hyn y mae’n ei olygu i gynrychioli Cymru — angerdd, diwylliant a balchder. Allwn ni ddim aros i weld ein hathletwyr yn dod â’r ysbryd hwnnw i lwyfan y byd, ac alla i ddim aros i fod yng nghanol y cyfan yn helpu i gefnogi’r tîm dros y 10 diwrnod o gystadlu.”
Mae’r daith yn parhau dros yr ychydig fisoedd nesaf, gyda Thîm Cymru ar fin cyhoeddi’r athletwyr ym mis Mehefin, a fydd yn garreg filltir bwysig arall. Bydd y cyhoeddiad yn cyd-fynd â diwrnod cyntaf Taith Baton y Brenin yng Nghymru, wrth i’r genedl ddechrau cefnogi ei hathletwyr.
Wrth wraidd yr ymgyrch mae neges bwerus – un a fydd yn atseinio trwy bob arena, pwll, a thrac yn Glasgow:
Fi yw’r ddraig sy’n tynnu nerth o’n chwedlau,
𝘴𝘺’𝘯 𝘨𝘢𝘥𝘢𝘦𝘭 𝘺 𝘥𝘰𝘳𝘧 𝘮𝘦𝘸𝘯 𝘴𝘺𝘯𝘥𝘰𝘥 𝘸𝘳𝘵𝘩 𝘨𝘳𝘰𝘦𝘴𝘪’𝘳 𝘭𝘭𝘪𝘯𝘦𝘭𝘭, 𝘢’𝘪 𝘨𝘸𝘳𝘦𝘴 𝘺𝘯 𝘧𝘺 𝘭𝘭𝘦𝘯𝘸𝘪.
Mae fy Nghymru yn fy nghymell,
𝘮𝘢𝘦 𝘧𝘺 𝘮𝘺𝘥 𝘺𝘯 𝘧𝘺 𝘮𝘩𝘢𝘳𝘤𝘩𝘶; 𝘣𝘶 𝘥𝘳𝘢𝘪𝘨 𝘥𝘢𝘳𝘰𝘨𝘢𝘯 𝘺𝘯 𝘣𝘳𝘦𝘶𝘥𝘥𝘸𝘺𝘥𝘪𝘰’𝘯 𝘩𝘪𝘳𝘢 𝘯𝘢𝘸𝘳, 𝘥𝘺𝘮𝘢’𝘳 𝘢𝘸𝘳 𝘧𝘢𝘸𝘳, 𝘧𝘺 𝘢𝘸𝘳 𝘧𝘢𝘸𝘳 𝘪.
O Ynys Môn i Gaerdydd, o lawr gwlad i’r llwyfan byd-eang, mae Tîm Cymru yn cario gobeithion cenedl — wedi’u huno gan dreftadaeth, wedi’u gyrru gan uchelgais, ac wedi’u pweru gan y ddraig.
Gyda 100 diwrnod i fynd, mae’r cloc yn tician.