Er bod nifer fach o ddigwyddiadau yn dal i gael eu cwblhau, mae’r cyhoeddiad cychwynnol hwn yn tynnu sylw at lwybr cyffredinol y Daith, gan ddechrau yn lleoliad eiconig Ynys y Barri ym Mro Morgannwg a theithio trwy gymunedau ledled y genedl cyn cyrraedd ei chyrchfan derfynol.

Bydd rhan Gymreig y Daith yn rhedeg yn swyddogol o 19–24 Mehefin a bydd yn cynnwys cymysgedd deinamig o ddigwyddiadau wedi’u recordio ymlaen llaw ochr yn ochr â digwyddiadau byw, gan sicrhau y gall cymunedau ledled Cymru gymryd rhan yn y dathliad hanesyddol hwn.

Mae gan bob un o’r 74 cenedl a thiriogaeth ar draws y Gymanwlad ei Baton unigryw ei hun, gyda gair gwahanol ar bob un. Gyda’i gilydd, bydd y 74 gair yma’n ffurfio neges a fydd yn cael ei darllen gan Ei Fawrhydi y Brenin yn y Seremoni Agoriadol. Gair Cymru yw CYMUNED — adlewyrchiad addas o ysbryd y genedl. Mae Baton Cymru wedi’i ddylunio gan yr artist o Gymro Nathan Wyburn, gyda’r dyluniad i’w ddatgelu’n fuan.

Bydd y daith yn dechrau ym Mro Morgannwg, gyda digwyddiad lansio ar Ynys y Barri, cyn symud i Gaerdydd a Chasnewydd. Oddi yno, bydd y Baton yn teithio trwy Sir Fynwy, Caerffili a Thorfaen, cyn parhau i Bort Talbot.

Yna mae’r daith yn mynd tua’r gorllewin i Abertawe, gan barhau i Sir Gaerfyrddin a chyrraedd Sir Benfro. Gan droi i’r gogledd, bydd y Baton yn teithio trwy Bowys a Cheredigion, cyn croesi Cymru tua’r dwyrain i Wrecsam.

Yn y darn olaf bydd y Baton yn teithio ar draws top gogledd Cymru, gan arddangos tirweddau a chymunedau’r rhanbarth, cyn cyrraedd Ynys Môn ar gyfer y dathliadau cloi.

Bydd Cludwyr Baton ym mhob lleoliad ar hyd y llwybr, gan gydnabod unigolion sydd wedi gwneud cyfraniadau ystyrlon i’w cymunedau. Bydd eu straeon yn rhan ganolog o’r daith, yn adlewyrchu ysbryd, amrywiaeth a balchder Cymru.

Bydd rhagor o fanylion, gan gynnwys lleoliadau digwyddiadau penodol a dathliadau cymunedol, yn cael eu cyhoeddi yn y dyddiau a’r wythnosau nesaf. Bydd manylion y digwyddiadau byw a sut y gallwch gymryd rhan yn cael eu rhannu cyn bo hir.

Dywedodd Rebecca Edwards-Symmons, Prif Swyddog Gweithredol Tîm Cymru: “Dyma fy Gemau cyntaf a’m Taith Baton gyntaf, ac mae’n gyfle gwych i adeiladu momentwm a chreu cefnogaeth i Dîm Cymru cyn haf hynod gyffrous. Rydyn ni wedi cael diddordeb mor eang gan yr awdurdodau lleol i fod yn rhan o Daith Baton y Brenin, allwn ni ddim diolch digon iddyn nhw am eu cefnogaeth.”

Am y tro cyntaf erioed, mae Chwaraeon y Gymanwlad yn partneru â Chymdeithas Frenhinol y Gymanwlad i fynd i’r afael â llygredd plastig.  Bydd Ymgyrch Plastigau Cefnforoedd Glân y Gymanwlad yn dod ag athletwyr a chymunedau at ei gilydd i atal miliwn o ddarnau o blastig rhag mynd i mewn i ddyfrffyrdd y Gymanwlad cyn i’r Gemau ddechrau yn 2026.

Dywedodd Cathy Williams, Pennaeth Ymgysylltu ac Arweinydd Taith Baton y Brenin yng Nghymru: “Mae wedi bod yn ysbrydoledig ymweld â siroedd, cydweithio ar ddigwyddiadau, a gweld yr angerdd gwirioneddol ledled y wlad i fod yn rhan o Dîm Cymru. Rydyn ni’n edrych ymlaen at fynd â’r Baton i gymaint o gymunedau â phosibl, wrth gefnogi Ymgyrch Plastigau Cefnforoedd Glân y Gymanwlad yr un pryd.”