CYHOEDDI’R PRIF SWYDDOG GWEITHREDOL
Mae’n bleser gan Gemau’r Gymanwlad Cymru gyhoeddi penodiad Rebecca Edwards-Symmons yn Brif Swyddog Gweithredol newydd y sefydliad.
Yn dilyn ymddeoliad Chris Jenkins ar ôl Birmingham 2022, bydd Rebecca yn ymuno â’r sefydliad ar 5ed Rhagfyr.
Dywedodd Helen Phillips Cadeirydd y Bwrdd: ”Mae’r bwrdd yn falch iawn o groesawu Rebecca i ymuno â Gemau’r Gymanwlad Cymru ar adeg mor allweddol i’r sefydliad. Wrth i ni ddechrau ar y gwaith o greu strategaeth newydd a fydd yn parhau i ganolbwyntio ar roi’r cyfleoedd a’r profiadau gorau yng Ngemau’r Gymanwlad i’n hathletwyr, timau cymorth a Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol. Rydym hefyd yn bwriadu edrych tuag allan i weld sut y gallwn ymestyn ein cyrhaeddiad masnachol, ein safle fel un o brif chwaraewyr Chwaraeon yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a ledled y Gymanwlad.
Mae gwybodaeth a phrofiad Rebecca o gefnogi tîm, datblygu strategaeth gadarn, a chydweithio helaeth ar draws amrywiaeth o sectorau yn nodweddion sy’n cael eu hategu gan gymeriad atyniadol ac angerddol a fydd yn parhau i danio brwdfrydedd ein gwaith, ein staff a’n haelod-sefydliadau.”
Fel un sydd wedi graddio’n ddiweddar o raglen Prif Swyddogion Gweithredol Sefydliad Chwaraeon gydag Addysg Weithredol VSI, bydd Rebecca yn cyrraedd gyda chyfoeth o brofiad masnachol, marchnata, trawsnewid digidol, rheoli newid ac arweinyddiaeth.
Yn dilyn ymddeoliad Chris Jenkins ar ôl 17 mlynedd wrth y llyw, bydd Rebecca yn arwain Gemau’r Gymanwlad Cymru i mewn i broses bontio bellach a fydd hefyd yn gweld nifer o aelodau presennol y bwrdd yn dod i ddiwedd eu tymor yn ystod y cylch nesaf.
Dywedodd Rebecca: “Rwy’n edrych ymlaen at arwain ein gwlad i gynllun cylch cyffrous iawn ar gyfer Gemau’r Gymanwlad Ieuenctid yr haf nesaf, a Gemau’r Gymanwlad 2026 yn Awstralia.
“Rwy’n ffodus iawn i gael bwrdd medrus iawn a staff gwych i’m cefnogi ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at adeiladu ar gyfnod anhygoel Chris yn ei swydd. Mae’n arbennig iawn cael olynu arweinydd o’r fath ac edrychaf ymlaen at ddechrau ar fy siwrnai.”