Team Wales 2021 Review
Hwyl Fawr 2021, Shwmae #B2022!
Gyda'r flwyddyn yn tynnu at ei therfyn, roeddem am edrych yn ôl ar yr hyn rydym wedi'i gyflawni yn 2021, wrth i ni edrych ymlaen hefyd at flwyddyn gyffrous yn 2022, blwyddyn y gemau!
Gofynnwyd i'n Prif Swyddog Gweithredol, Chris Jenkins, Chef de Mission, Dr Nicola Phillips, a Chadeirydd Gemau’r Gymanwlad Cymru, Helen Phillips, fyfyrio ar y flwyddyn:
Chris Jenkins
Drwy gydol 2021 mae Gemau'r Gymanwlad Cymru (CGW) wedi gweithio'n agos iawn gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru a Chyrff Llywodraethu Chwaraeon Cenedlaethol i’ch cadw’n hyfforddi a chystadlu, a hoffwn ddiolch i'r holl athletwyr, hyfforddwyr, staff cymorth a theuluoedd am eu cefnogaeth. Rydym yn dechrau ar y flwyddyn pan ddewisir Tîm Cymru, ac rydym unwaith eto'n wynebu heriau ac, fel y byddech yn ei ddisgwyl, mae CGW yn gweithio gyda phartneriaid i'ch cefnogi. Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi dangos y gallwn addasu a chydweithio i ffurfio Tîm a fydd yn ysbrydoli Cymru. Mae'r paratoadau ar y trywydd iawn yng Nghymru a Birmingham wrth i bawb addasu, gyda chystadlaethau wedi'u symud, cyfyngiadau teithio a newidiadau i'ch cynlluniau hyfforddi; diolch am eich gwydnwch a'ch awydd i gynrychioli Cymru yn Birmingham. Mae cit Tîm Cymru yn edrych yn wych, ac er y byddem wedi hoffi cwrdd â chi i gyd i drafod Birmingham22 dewiswyd rhoi diogelwch yn gyntaf ac rydym yn cwrdd â phob carfan yn rhithwir. Mae gennym gynlluniau gwych ar gyfer diwrnodau Tîm Cymru pan fyddwn yn dosbarthu’r cit wrth i ni ddathlu'r broses ddethol ar gyfer Tîm Cymru ym mis Mehefin.
Rwy'n ysgrifennu atoch o Birmingham ar ôl ymweld â'r trac Athletau a'r pwll Nofio, y ddau leoliad newydd ar gyfer B22, ac maent yn edrych yn wych ac yn agos at eu cwblhau, gyda'u digwyddiadau prawf cyntaf yn y Gwanwyn. Mae pawb yn Birmingham 22 yn gweithio'n galed i wneud y Gemau hyn yn llwyddiant mawr. Rydym i gyd yn gwerthfawrogi ac yn edmygu'r ffordd y mae pawb mewn chwaraeon wedi dod at ei gilydd ac wedi addasu, nid yw hyn wedi bod yn hawdd, mae CGW a B22 ill dau yn barod ar gyfer y flwyddyn nesaf ac yn edrych ymlaen at groesawu Tîm Cymru yn Birmingham22.
Dr Nicola Phillips
Wrth i ni anelu at y Flwyddyn Newydd, rwy’n edrych ymlaen at yr hyn a ddaw yn 2022 i Dîm Cymru. Rydyn ni’n gobeithio y bydd yn gyfle i ddathlu chwaraeon eto ac er nad yw’n Gemau Cartref, mae Birmingham dafliad carreg o ffin Cymru. Rydym yn parhau i fod yn optimistaidd ynghylch y cyfle i gefnogwyr Tîm Cymru fynd draw i godi calon ein hathletwyr o Gymru a'u rhoi mor agos at fantais gartref ag y gallwn. Er ein bod yn gwybod y bydd heriau o hyd o dan yr amgylchiadau presennol, mae ein hathletwyr wedi dangos gwytnwch anhygoel hyd yn hyn ac rwy'n falch o fod yn arwain y tîm i Birmingham yn yr haf. Bydd yr awyrgylch yn rhywbeth na ddylid ei golli yn bendant, gyda thrigolion Birmingham yn adnabyddus am eu croeso cynnes.
Mae gennym rai misoedd prysur o'n blaenau wrth i ni gael popeth yn ei le i sicrhau bod ein hathletwyr, ar draws yr holl chwaraeon sy'n cystadlu, yn gallu paratoi ar gyfer eu perfformiadau gorau a chyflawni eu dyheadau.
Helen M Phillips
Wrth i ni nesáu at 2022 pan fydd ein hathletwyr yn mynd i Birmingham ar gyfer Gemau'r Gymanwlad, rwyf wrth fy modd o glywed gan Lywydd y CGF, y Fonesig Louise Martin, fod popeth yn iawn yn dilyn adolygiad comisiwn cydlynu CGF yn ddiweddar. Mae'r rhagfynegiad hwn o 'gemau llwyddiannus' yn dangos parodrwydd Birmingham i groesawu 72 o Genhedloedd. Rydym yn cydnabod bod Birmingham yn fywiog ac yn gyfoethog o amrywiol. Mae'n adnabyddus am gynnig croeso cynnes i ymwelwyr o bob cwr o'r byd bob amser ac rwy'n sicr fel eu cymdogion agosaf y byddwn yn cael croeso cynnes ganddynt.
Rydym yn gweithio ar amrywiaeth o lefelau gyda'r Pwyllgor Trefnu, y CGF ac yn bwysicach na dim gyda'n Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol. Diolch i chi i gyd am eich diwydrwydd wrth weithio gyda ni a'ch ymrwymiad i'n hathletwyr ar draws ein Campau sy'n cymryd rhan yn y gemau.
Mae Gemau'r Gymanwlad yn llawer mwy na digwyddiad aml-chwaraeon i Gymru – mae'n gyfle i ni arddangos ein gwlad wych, a dathlu ein diwylliant a'n cariad at chwaraeon.
Mae gweld unrhyw athletwr yn cystadlu dros Gymru bob amser yn ysbrydoledig ac rydym wedi'n bendithio ac yn ddiolchgar bod cymaint o athletwyr talentog ar gael i'w dewis, gyda chefnogaeth hyfforddwyr gwych a thimau cefnogi ar lefel clwb a gwlad.
Hoffwn ddymuno pob lwc i'n holl athletwyr yn ystod y misoedd cymhwyso olaf hyn a gofyn i chi i gyd barhau i ysbrydoli eich cymunedau a’ch gwlad ac i gadw'n ddiogel ac mewn ysbryd da am y 7 mis olaf hyn tan y gemau.
Yn olaf, hoffwn ddymuno Nadolig Llawen i chi i gyd a 2022 hapus ac iach.
Dilynwch daith #TîmCymru i Birmingham ar Instagram, Facebook a Twitter @TeamWales