Mae’r digwyddiad yn nodi’r ymgyrch gyntaf rhwng Tîm Cymru a John Lewis ers cyhoeddi’r brand yn ddiweddar fel partner manwerthu swyddogol ar gyfer nwyddau Tîm Cymru. Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i gefnogwyr fod y cyntaf i weld a phrynu’r casgliad neillryw swyddogol, sy’n cynnwys hwdis, ategolion a chrysau-t wedi’u brandio. 

Gan ddechrau o 2pm yn John Lewis, bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal gan Chef de Mission Tîm Cymru, Gethin Jones, gydag ymddangosiadau gan sêr Love Island, Ciaran Davies a Scott Van De Sluis, a ffefrynnau The Traitors, Andrew Jenkins a Fiona Hughes.

Bydd y digwyddiad hefyd yn dod â set DJ byw gan Josh Navidi, yn ogystal â sioe ffasiwn fyw gyda chyn-arwyr y Gymanwlad. Yn mynd ar y llwyfan i ddangos y casgliad newydd fydd cyn-arwyr y Gymanwlad, Lauren Price MBE, y Farwnes Tanni Grey-Thompson, Christian Malcolm, Dan Jervis, Jamie Baulch, Nathan Stephens, a Chapten Cymru a’r Llewod, Ken Owens.

Mae’r casgliad yn garreg filltir arwyddocaol i Dîm Cymru, gan mai dyma’r tro cyntaf i’r sefydliad ryddhau nwyddau swyddogol i’w prynu mewn siopau. Mae’r lansiad hefyd yn caniatáu i gefnogwyr ymgysylltu’n weithredol â Thîm Cymru cyn eu taith i’r Gemau nesaf yn Glasgow.

Dywedodd Rebecca Edwards-Symmons, Prif Weithredwr Gemau’r Gymanwlad Cymru: 

“Mae hon yn foment wirioneddol hanesyddol i Dîm Cymru. Am y tro cyntaf, bydd ein cefnogwyr angerddol yn gallu gwisgo nwyddau swyddogol, gan ymgysylltu â chefnogwyr Cymru cyn y Gemau.”

“Roedden ni eisiau dathlu’r garreg filltir hon mewn steil, ac mae’r digwyddiad ddydd Sadwrn yma yn mynd i fod yn llawn diwylliant Cymreig, ffasiwn a chwaraeon. Mae’r casgliad hwn yn cynrychioli ein treftadaeth, ein dyfodol, ac ysbryd di-ildio ein cenedl. Allwn ni ddim aros i’w rannu gyda’r cyhoedd y penwythnos hwn a dechrau gweld balchder Cymru wrth i ni gyfrif i lawr i Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow.” 

Ychwanegodd Helen Morgan, Cyfarwyddwr Canolfan Dewi Sant, Caerdydd: “Mae’n gyfnod mor gyffrous i fod yn gweithio ochr yn ochr â Thîm Cymru, ac mae’r digwyddiad hwn yn debygol o fod yn ddathliad gwirioneddol o’n gwlad a’n treftadaeth chwaraeon. Mae’r cyfri i lawr wedi dechrau ar gyfer y Gemau lle byddwn ni’n gweld y dalent orau o Gymru o dan y chwyddwydr, felly mae’n briodol lansio cit Tîm Cymru 2026 gyda’r digwyddiad llawn enwogion hwn.”

Mae’r casgliad yn cynnwys meintiau o XS – 2XL ac o 6 – 12 oed yn cael eu gwerthu a bydd y nwyddau’n cael eu harddangos ac ar gael i’w prynu yn John Lewis Caerdydd o ddydd Sadwrn ac ar-lein yn Store.Teamwales.Cymru.  

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad ar gael yma, gyda’r wasg yn cael ei hannog i fynychu.