Llwyddodd y pencampwr o Ben-y-bont ar Ogwr i gipio’r fedal aur yng nghystadleuaeth y ddisgen F42 yn Llundain yn 2012, y brif wobr yng nghystadleuaeth taflu pwysau F42 yn Rio yn 2016, ac yn fwyaf diweddar taflu pwysau F63 yn Tokyo yn 2020. Taflu pwysau fu ei brif ffocws dros y pedair blynedd diwethaf ond mae’n newid disgyblaethau er mwyn bod â chyfle i gynrychioli Tîm Cymru gan fod Birmingham wedi cynnwys categori disgen F42 yng nghalendr athletau’r Gemau.

“Rydw i wedi cael gwybod bod gen i gyfle arall, rydw i wedi cyffroi’n lân. Mae yna ddigwyddiad disgen i mi yn y Gymanwlad. Rydw i wedi bod yn daflwr pwysau proffesiynol ers 2016, a dim ond yn ymhél â’r ddisgen ond dyna oedd fy nigwyddiad athletau cyntaf, dyma lle mae fy nghalon i.

Does dim llawer o gyfleoedd i mi daflu’r ddisgen rhagor – dydw i ddim hyd yn oed wedi ei daflu ers pedair blynedd, felly ydw, dwi nôl yn hyfforddi ac yn teimlo’n dda!”

Dywedodd Nicola Philips, Chef de Mission Tîm Cymru;

“Mae’n newyddion gwych bod Aled yn gobeithio am le yn Nhîm Cymru yr haf nesaf. Mae hyn yn pwysleisio angerdd a balchder athletwyr Cymru wrth gynrychioli eu gwlad. Mae cael rhywun fel Aled sydd newydd ddod yn ôl o’r Gemau Paralympaidd gydag aur arall yn enghraifft wych o athletwr o’r safon uchaf yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gael gwisgo crys Cymru, ac yn achos Aled mae hynny’n golygu newid disgyblaethau ar ôl 4 blynedd, sy’n rhyfeddol. Rydyn ni yn Nhîm Cymru yn dymuno pob lwc i Aled a’r holl athletwyr sydd ar y rhestr hir ar hyn o bryd dros y misoedd nesaf’.

Mae’r cymhelliant a’r angerdd sy’n sbarduno Aled i gystadlu yn amlwg;

“I mi, mae’n syml. Fyddai dim ots gen i sut – os oes cyfle i fi wisgo fest Cymru a chystadlu dros fy ngwlad, fe wna i ei gymryd!

Alla i ddim aros i gael cyfle arall i roi cynnig ar hyn fel anifail gwahanol nawr, fel athletwr gwahanol – mae gen i lawer o brofiad, rwy’n edrych ymlaen yn fawr!”

Meddai Fiona Reid, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Anabledd Cymru;

“Rhaid i ni beidio ag anghofio cymaint o athletwr anhygoel yw Aled. Mae’n daflwr aruthrol ac rydyn ni i gyd wedi cyffroi’n fawr o glywed ei fod yn gobeithio ennill ei le yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham y flwyddyn nesaf, yn enwedig gwisgo lliw coch Cymru.”  

Dywedodd James Williams, Prif Swyddog Gweithredol Athletau Cymru;

“Mae Aled yn Gymro balch, ac er y llwyddiant ysgubol a gafodd mewn fest Prydain, rwy’n siŵr y bydd am gael dathlu medal aur yn fest Tîm Cymru a chlywed Anthem Genedlaethol Cymru yn chwarae yn Birmingham y flwyddyn nesaf. Mae carfan gref iawn o daflwyr abl a phara yng Nghymru, felly rwy’n siŵr y bydd Aled yn gweithio’n eithriadol o galed i sicrhau ei le dros y 6 mis nesaf.”

 Mae angen i Aled ennill ei le i gael ei ddewis o hyd, ond mae’n teimlo’n hyderus iawn;

“Rwy’n frwdfrydig iawn oherwydd dydw i ddim wedi colli ers amser hir nawr ac mae’n rhaid i fi ennill fy lle yn ffurfiol a chymhwyso er mwyn bod yn rhan o Dîm Cymru a chael fy hun ymhlith y safleoedd, ond ar yr un pryd rwy’n cael y cyfle i fod ymhlith y medalau yna ac rwy’n hyderus iawn, iawn!”

Yn lansio heddiw, gydag Aled Sion Davies fel y gwestai cyntaf, mae cyfres podlediad newydd sbon Tîm Cymru ar Apple a Spotify. Bydd y gyfres yn clywed straeon bywyd athletwyr eiconig Gemau’r Gymanwlad Cymru, gan ddilyn eu taith wrth iddynt geisio gwireddu eu huchelgeisiau.