Mae Tîm Cymru yn falch o gyhoeddi ei fod wedi ennill y Wobr Twf Busnes Gorau yng Ngwobrau nodedig Diwydiant Chwaraeon Cymdeithas Chwaraeon Cymru (WSA) 2025, gan gydnabod datblygiad, effaith, ac ymrwymiad eithriadol y sefydliad i gymunedau chwaraeon a busnes Cymru.
Mae’r wobr yn dathlu taith twf cynaliadwy Clwb Busnes Tîm Cymru, wedi’i ategu gan rwydwaith o bartneriaethau deinamig, gwerthoedd a rennir, a brwdfrydedd cyfun am chwaraeon. Ers ei sefydlu yn 2023, mae’r Clwb Busnes wedi tyfu i fod yn blatfform llewyrchus sy’n cefnogi Tîm Cymru ac ar yr un pryd yn rhoi gwerth gwirioneddol i fusnesau, cymunedau lleol ac athletwyr ar draws nifer o chwaraeon ledled y wlad.
Dywedodd Rebecca Edwards-Symmons, Prif Weithredwr, am y wobr:
“Mae’n anrhydedd i ni dderbyn y gydnabyddiaeth hon gan Gymdeithas Chwaraeon Cymru. Mae’r wobr hon yn adlewyrchu cryfder y perthnasoedd rydyn ni wedi’u meithrin, y gwerthoedd rydyn ni’n eu cynnal, a’r gred gyfunol yn yr hyn y gall chwaraeon ei gyflawni y tu hwnt i’r maes chwarae. Hoffwn ddiolch i’n tîm bach o staff sydd wedi gweithio’n galed iawn i sicrhau bod y Clwb Busnes wedi bod yn llwyddiant – y nod yn y pen draw yw ein bod yn mynd â Thîm Cymru cryf i Gemau nesaf y Gymanwlad, gan roi i’r athletwyr y profiad a’r gydnabyddiaeth y maent yn eu haeddu ar lwyfan y byd.”
Mae model y Clwb Busnes yn canolbwyntio ar gydweithio, ymgysylltu, a llwyddiant sydd er budd y naill ochr a’r llall. Mae wedi cysylltu cannoedd o fusnesau â chyfleoedd sydd nid yn unig yn cefnogi athletwyr elît Cymru ond hefyd yn cyfrannu at effaith gymdeithasol ac economaidd ehangach.
Gwobrau Diwydiant Chwaraeon Cymdeithas Chwaraeon Cymru yw prif ddigwyddiad y Gymdeithas (WSA), ac maent yn anrhydeddu rhagoriaeth, arloesedd, ac effaith yn y sector chwaraeon yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth am y Clwb Busnes a chyfleoedd partneriaeth, ewch i DOLEN