Gyda’r paratoadau ar gyfer rhaglen chwaraeon fawr yr haf hwn yn parhau, mae Tîm Cymru yn falch o gyhoeddi mai Ottimo Digital yw ei bartner swyddogol diweddaraf ar gyfer Gemau’r Gymanwlad 2026.
Sefydlwyd Ottimo Digital yn 2009, ac maen nhw wedi tyfu o fod yn ystafell argraffu fach yn Ne Cymru i fod yn un o brif arbenigwyr argraffu digidol fformat mawr y DU. Gyda’u technoleg flaengar, mae’r cwmni’n darparu arwyddion a graffeg arloesol o ansawdd uchel ar draws ystod eang o ddeunyddiau. Maen nhw’n gweithio i amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys chwaraeon, digwyddiadau, manwerthu, adeiladu a darlledu, ac maen nhw wedi meithrin enw da am eu hymrwymiad i ansawdd eithriadol a gwasanaeth i gwsmeriaid.
Trwy’r bartneriaeth hon, bydd Ottimo Digital yn cefnogi Tîm Cymru trwy greu brandio gweledol, arwyddion a deunyddiau hyrwyddo effeithiol wrth i’r tîm adeiladu momentwm tuag at Gemau 2026.
Dywedodd Rebecca Edwards-Symmons, Prif Swyddog Gweithredol Tîm Cymru:
“Rydym yn falch iawn o groesawu Ottimo Digital yn bartner newydd ar ein taith i Gemau’r Gymanwlad 2026. Mae eu harbenigedd, eu dyfeisgarwch a’u gwreiddiau Cymreig cryf yn golygu eu bod nhw’n bartner perffaith i Dîm Cymru. Bydd y bartneriaeth hon yn ein helpu i arddangos ein hathletwyr a’n gwerthoedd gyda balchder a phroffesiynoldeb.”
Ychwanegodd Jon Stephens, Cyfarwyddwr Gwerthiant Ottimo Digital:
“Rydym yn falch o gyhoeddi ein partneriaeth gyda Thîm Cymru, ac i gyfrannu ein harbenigedd mewn brandio chwaraeon i gefnogi’r tîm ar y daith i Gemau Glasgow. Gyda’n datrysiadau fformat mawr effeithiol a’n gwaith print safon uchel, rydym yn edrych ymlaen at ddyrchafu’r brand a chreu presenoldeb gweledol pwerus yn y cyfnod cyn y Gemau. Bydd yr holl elfennau yn cael eu cynhyrchu’n lleol yn ein cyfleuster cynhyrchu yng Nghasnewydd, gan adlewyrchu ein hymrwymiad i ansawdd ac i’n cymuned.
Mae cael cyfrannu at ymgyrch Tîm Cymru yn fraint ac yn anrhydedd, ac rydym yn ffyddiog y byddan nhw’n llwyddiannus iawn.”
Mae’r bartneriaeth hon yn garreg filltir arwyddocaol ym mharatoadau Tîm Cymru ar gyfer 2026, gan atgyfnerthu ei ymrwymiad i weithio gyda busnesau blaenllaw yng Nghymru i gefnogi athletwyr ac i ysbrydoli cymunedau ledled Cymru.