Sboncen

G S B Total
0
0
2
2

Gwnaeth Sboncen ei hymddangosiad cyntaf yng Ngemau’r Gymanwlad 1998 yn Kuala Lumpur, ac fel camp graidd, mae wedi ymddangos ym mhob un ers hynny. Mae Cymru wedi ennill dwy fedal efydd yn ystod yr 20 mlynedd, Alex Gough yn 1998 a Tesni Evans yn 2018. Ym Mirmingham 2022 bydd tîm Cymru yn cyflwyno tîm cryf o bum athletwr, a bydd Tesni Evans yn dychwelyd ochr yn ochr â’i brawd, Emyr, a fydd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yng Ngemau’r Gymanwlad.


© 2025 Team Wales