Claire Warnes

Is-Gadeirydd

Penodwyd Claire i Fwrdd CGW ym mis Mehefin 2016 ac yna cafodd ei hethol i’r Bwrdd ym mis Hydref 2018. Mae’n aelod o’r is-bwyllgor Llywodraethu a Risg ac roedd yn aelod o’r panel Apeliadau yn ystod y broses ddethol ar gyfer Tîm Cymru yn 2018. Mynychodd Gemau Arfordir Aur 2018 gyda Thîm Cymru.

Yn gyn-redwr 400m rhyngwladol dros Gymru, mae Claire yn bartner yn KPMG lle mae’n canolbwyntio ar weithio gyda chleientiaid i wella gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig mewn addysg ac iechyd a gofal. Mae hi’n noddwr rhagweithiol ac yn eiriolwr dros arweinyddiaeth gynhwysol a symudedd cymdeithasol.

© 2025 Team Wales