Yr artist o Gymru, Nathan Wyburn, fydd yn dylunio Baton Cymru ar gyfer Taith Baton y Brenin eleni. Bydd y daith yn cael ei chynnal ledled Cymru rhwng 19 a 24 Mehefin, gan ddathlu treftadaeth, diwylliant a llwyddiant chwaraeon Cymru ledled y wlad.
Daw Nathan o Lynebwy, ac mae’n adnabyddus am ei ddulliau creadigol anarferol. Mae’n creu portreadau o ffigurau poblogaidd o ddeunyddiau annisgwyl, megis ei bortread o Simon Cowell a wnaed o dost a marmite. Mae ei bortreadau wedi cyrraedd cynulleidfaoedd ehangach trwy Britain’s Got Talent yn 2011, pan gyrhaeddodd y rownd gynderfynol, ynghyd â’i bortreadau o ffigyrau enwog eraill, gan gynnwys Eminem gyda spaghetti, Albert Einstein gyda Smarties, a’r Mona Lisa gan ddefnyddio dail a chwythwr dail. Bydd ei weledigaeth artistig unigryw yn sicrhau y bydd baton Cymru yn wahanol i unrhyw beth a welwyd o’r blaen.
Dyma ddywedodd Prif Swyddog Gweithredol Gemau’r Gymanwlad Cymru, Rebecca Edwards-Symmons:
“Rydym yn falch iawn o gael Nathan i ddylunio ein Baton ar gyfer Taith Baton y Brenin eleni.
Mae ei arddull artistig unigryw ynghyd â’i falchder a’i angerdd dros ei wlad yn gyfuniad perffaith i greu rhywbeth arbennig i Dîm Cymru. Mae’r Daith yn gyfle unigryw i deithio’r wlad ac i adeiladu momentwm tuag at y Gemau. Bydd y baton ar flaen y gad, mae’n mynd i fod yn arbennig iawn. Rydym yn edrych ymlaen at gario’r cynnyrch terfynol ledled Cymru, ac yna, wrth gwrs, i’r Seremoni Agoriadol.”
Mae Taith Baton y Brenin (King’s Baton Relay) yn rhan gwbl hanfodol o Daith y Gymanwlad, gan osod y llwyfan ar gyfer Gemau’r Gymanwlad. Dechreuodd y daith ym Mhalas Buckingham ar 10 Mawrth 2025. Yn wahanol i Deithiau Baton blaenorol y Gymanwlad, eleni bydd pob cenedl yn cael dylunio eu baton eu hunain cyn taith eu gwlad, ac yna’n ei chludo i’r Alban yn barod ar gyfer y seremoni agoriadol.
Bydd Baton unigryw Cymru yn ymweld â chymunedau ledled Cymru, gan feithrin cyffro, sylw a ffocws ar gyfer y Gemau sy’n dechrau ar Orffennaf 23.
Dywedodd yr artist Nathan Wyburn “Dw i’n falch iawn o gael defnyddio fy nghelf i gynrychioli fy ngwlad. Mae’n anrhydedd mawr. Pan ges i’r cynnig, yn syth bin roedd fy mhen yn llawn syniadau creadigol. Dw i wrth fy modd â chelf sydd â neges bwerus, ond dw i hefyd yn caru celf sy’n gwneud i bobl wenu – dw i am geisio cyfuno’r ddau beth yn y dyluniad hwn.”
Bydd rhagor o fanylion am lwybr y ras trwy Gymru yn cael eu rhannu dros yr wythnosau nesaf.