Heddiw, mae Tîm Cymru wedi cyhoeddi’r athletwyr a ddewiswyd i gynrychioli’r genedl yng Ngemau’r Gymanwlad Glasgow 2026, a gynhelir rhwng 23 Gorffennaf a 2 Awst 2026.
Bydd cyfanswm o 114 o athletwyr yn cystadlu mewn 10 camp, gan gynrychioli Cymru yn 23ain Gemau’r Gymanwlad. Mae’r chwaraeon yn cynnwys:
- Nofio a Nofio Para
- Athletau a Phara Athletau
- Beicio Trac a Beicio Trac Para
- Gymnasteg
- Bowlio a Bowlio Para
- Judo
- Bocsio
- Codi pwysau
- Pêl-rwyd
- Pêl-fasged Cadair Olwyn 3 x 3
O’r 114 athletwr a ddewiswyd, mae 22 yn bara-athletwyr, gyda thîm cryf a chytbwys yn cynnwys 66 o gystadleuwyr benywaidd a 48 o gystadleuwyr gwrywaidd.
Mae’r garfan yn cynnwys lefel eithriadol o brofiad a llwyddiant, gan gynnwys:
- 3 Pencampwr Olympaidd presennol ac 1 Pencampwr Paralympaidd
- 6 enillydd medal Olympaidd a 3 enillydd medal Paralympaidd
- 5 Pencampwr y Byd a 3 deiliad record byd
- 14 enillydd medal o Gemau’r Gymanwlad Birmingham, gan gynnwys 5 enillydd medal aur
Mae’r tîm yn adlewyrchu amrywiaeth chwaraeon Cymru, gydag athletwyr yn amrywio o 16 i 73 oed. Ymhlith y straeon o fewn y garfan mae’r cwpl priod Ciara a Lewis Oliva, sy’n dychwelyd o’u hymddeoliad i gystadlu gyda’i gilydd mewn Beicio Trac yn Arena Ryngwladol Glasgow, yn ogystal â’r efeilliaid, y gymnastwyr Abigail ac Emily Roper, sy’n gwneud eu hymddangosiad cyntaf yng Ngemau’r Gymanwlad.
Daw’r cyhoeddiad wrth i Glasgow baratoi i gynnal y Gemau am yr eildro, ar ôl croesawu athletwyr yn 2014. Ar yr achlysur hwnnw, rhoddodd Tîm Cymru berfformiad rhagorol, gan ennill 36 medal mewn 17 camp.
Bydd Tîm Cymru yn cael ei arwain gan y Chef de Mission Gethin Jones, a fydd yn llefarydd ar ran y Tîm yn Glasgow; “Mae’n anrhydedd anhygoel arwain Tîm Cymru yr haf hwn yn Glasgow ac i wasanaethu fel llefarydd ar ran y grŵp talentog hwn o athletwyr. Fy rôl i yw cefnogi ac arwain y tîm, gan sicrhau bod gan bob athletwr yr amgylchedd a’r anogaeth sydd eu hangen arnynt i berfformio ar eu gorau ar lwyfan y Gymanwlad. Mae’r grŵp hwn yn cynrychioli’r gorau o chwaraeon Cymru—ymroddedig, uchelgeisiol a balch o wisgo’r crys coch. Rydyn ni’n adeiladu ar etifeddiaeth 2014 gyda chred go iawn, ac allwn i ddim bod yn fwy balch o fod yn rhan o’r tîm hwn. Alla i ddim aros i weld beth maen nhw’n ei gyflawni yn Glasgow.”
Ychwanegodd Gareth Davies, Cadeirydd Tîm Cymru:
“Mae cyhoeddi’r tîm bob amser yn foment falch, nid yn unig i’r athletwyr ond i bawb sy’n ymwneud â gwneud y daith hon yn bosibl. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae llawer iawn o waith wedi mynd i gynllunio a chyflawni y tu ôl i’r llenni, ac mae’r tîm hwn yn adlewyrchiad o’r ymdrech ar y cyd hwnnw ar draws chwaraeon Cymru. Fel Cadeirydd Tîm Cymru, rwy’n hynod falch o’r sefydliad a phawb sydd wedi cyfrannu at y foment hon. Mae gan Glasgow atgofion arbennig i ni, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn y Gemau a chefnogi’r tîm wrth iddyn nhw gynrychioli Cymru gyda balchder ar lwyfan y byd.”
Dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan:
“Rydyn ni’n credu yng ngrym diwylliant a chwaraeon i drawsnewid bywydau, ac mae chwaraeon yn chwarae rhan hanfodol mewn cymunedau mewn clybiau lleol ac ar lefel elitaidd ryngwladol. Mae athletwyr Tîm Cymru yn cynrychioli’r gorau yn eu priod feysydd a byddant yn ysbrydoliaeth i bawb ledled y wlad wrth gystadlu ac fel llysgenhadon i’n gwerthoedd fel cenedl. Rwy’n gwybod bod Cymru gyfan yn falch o’r tîm ac rwy’n dymuno pob lwc iddyn nhw.”
Mae pêl-rwyd hefyd wedi cymhwyso ar gyfer y Gemau, gyda’r garfan eto i’w chyhoeddi. Mae Cymru yng ngrŵp B gyda Seland Newydd, Jamaica, Uganda, yr Alban a Trinidad a Tobago.
Bydd Glasgow 2026 hefyd yn eiliad hanesyddol i Dîm Cymru, gan gadarnhau bod eu timau pêl-fasged 3×3 cadair olwyn gwrywaidd a benywaidd wedi cymhwyso ar gyfer Gemau’r Gymanwlad am y tro cyntaf mewn hanes.
Gyda hanes balch yng Ngemau’r Gymanwlad a chymysgedd cryf o brofiad a thalent sy’n dod i’r amlwg, mae Tîm Cymru yn mynd i Glasgow 2026 yn barod i gystadlu, cysylltu ac ysbrydoli.
Bydd y genedl unwaith eto yn dod at ei gilydd i gefnogi ei hathletwyr wrth iddynt fynd ar lwyfan y byd yr haf hwn.
Tîm Cymru – Glasgow 20206
Athletau:
Abigail Pawlett
Adele Nicoll
Aled Davies
Amber Simpson
Ava Lloyd
Bree Cronin
Cari Hughes
Charlotte Henrich
Ellie Bowen
Fumni Oduwaiye
Harrison Walsh
Isabelle Boffey
Jake Heyward
Jeremiah Azu
Justin Davies
Melissa Courtney-Bryant
Olivia Breen
Thomas Walley
Bowlio:
Amy Williams
Daniel Salmon
Jamie Jones (Cyfarwyddwr)
John Wilson (Cyfarwyddwr)
Julie Thomas
Lauren Gowen
Ross Owen
Steffan James
Bocsio:
Connor Williams
Daniel Pitt
Helen Jones
Niamh Brookes
Orlando Holley-Sotomi
Owain Harris-Allan
Rosie Eccles
Beicio Trac:
Anna Morris
Carys Lloyd
Ciara Oliva
Emma Finucane
Ioan Hepburn
James Ball
Jessica Roberts
Jonah Jenkins
Lewis Oliva
Lowri Thomas
Matthew Rotherham (Peilot)
Megan Barker
Rhian Edmunds
Rhys Britton
Rory Gravelle
Steffan Lloyd
William Perrett
William Roberts
William Salter
Gymnasteg Artistig:
Abigail Roper
Alexander Niscoveanu
Elliot Vernon
Emily Roper
Frances Stone
Henry Lewis
Jacob Edwards
Jemima Taylor
Joe Cemlyn-Jones
Ruby Evans
Judo:
Ashleigh Barnikel
Ben Moore
Holly Devall
Joshua Bell
Joshua Whitehouse
Lola Hodson
Millie Bayliss
Oliver Barrett
Nofio:
Alexandra Bastone
Amy Crowley
Dan Jones
Dylan Broom
Ela Letton-Jones
Harry Milne
Jack Knight
Joshua Inglis
Kieran Bird
Kyle Booth
Lewis Fraser
Matthew Richards
Medi Harris
Meghan Higgs
Meghan Willis
Rebecca Sutton
Rhys Darbey
Rose Williams
Sophie Davies
Theodora Taylor
Tyler Melbourne-Smith
Codi pwysau:
Catrin Haf Jones
Cloe Hood
James Wales
Laura Hughes
Madaline Connelly
Nikole Roberts