Roedd hi’n ddiwrnod cofiadwy arall ar y trac i Dîm Cymru wrth i ddwy Aur ac Efydd gael eu hennill yn y Sir Chris Hoy Velodrome, yn ogystal â dwy fedal Efydd yn y Bocsio ac un fedal Aur yn yr Athletau.
Bowls
Fe wnaeth Dan Salmon a Ross Owen ddechrau’r diwrnod i Dîm Cymru ym Mharau’r Dynion yn y Bowls, gan wynebu Malaysia yn eu pedwaredd gêm o’u hymgyrch Adran A; daeth i ben gyda cholled rwystredig o 2-0, gan gadarnhau eu bod yn gadael y gystadleuaeth ar ôl eu gêm olaf i ddod ar Ddiwrnod 9.
Yn y prynhawn, camodd Amy Williams i’r rinc unwaith eto, gan geisio parhau â’i pherfformiadau syfrdanol yn ei phedwaredd gêm o Adran C yn Senglau’r Menywod. Roedd hi’n wynebu Caroline Whitehead o Ynys Manaw i’w gwneud hi’n bedair allan o bedair mewn arddangosfa ddominyddol arall a welodd hi’n cronni 26 pwynt ac yn gollwng dim ond un mewn buddugoliaeth o 2-0.
Beicio
Ar ôl noson arbennig yn y Sir Chris Hoy Velodrome i Dîm Cymru ar Ddiwrnod 7, roedd Emma Finucane, Lowri Thomas a Rhian Edmunds i gyd wrthi eto yn gynnar ar Ddiwrnod 8, gan ymgymryd â’r digwyddiad Gwibio Unigol i Fenywod y tro hwn.
Profodd cymhwyso’r un mor llwyddiannus i’r tair ohonynt, pob un yn symud ymlaen i Rownd 1/8 gyda Rhian Edmunds a Lowri Thomas yn gorffen yn bumed ac yn 13eg yn y drefn honno, tra bod Emma Finucane yn taranu i Record Gemau newydd o 10.322. Ar y cam nesaf, er i Lowri Thomas golli ei ras o 0.065 eiliad, enillodd Emma Finucane a Rhian Edmunds a symud ymlaen i’r rownd gogynderfynol, lle enillodd y ddwy mewn dwy ras yn unig a chymhwyso ar gyfer y rownd gynderfynol.
Yn anffodus, cyfarfu’r ddwy â’i gilydd yn y rownd gynderfynol, gyda Finucane yn ennill i fynd drwodd i ras y medal aur ac anfon Rhian Edmunds i ras y fedal efydd.
Er gwaetha’r siom, rhoddodd Rhian Edmunds berfformiad syfrdanol i oresgyn gwrthwynebydd anodd yn Nurul Izzah Izzati Mohd Asri o Malaysia i hawlio Efydd. Ychydig funudau wedyn, daeth Emma Finucane â diwrnod anhygoel yn y digwyddiad Gwibio i Fenywod i ben trwy ennill Aur yn erbyn Sophie Capwell o Loegr.
Roedd Ciara Oliva, Anna Morris a Jess Roberts i gyd yn wynebu cymhwyso ar gyfer Ras Ymlid Unigol 400m i Fenywod. Daeth Oliva a Jess yn seithfed ac yn 11eg yn y drefn honno, wrth i Anna symud ymlaen i ras y Fedal Aur wrth iddi orffen yn ail. Oddi yno, crëwyd hanes wrth iddi sicrhau Record Gemau o 00:04:272 i guro ei gwrthwynebydd o Loegr i gipio’r Aur.
Ar ôl ei seremoni medalau, roedd Anna Morris hefyd wrthi eto ar gyfer rownd derfynol Ras Safonol (Scratch) 10km y Menywod ochr yn ochr â Carys Lloyd a Megan Barker, gyda’r triawd yn bumed, 20fed ac 21ain yn y drefn honno.
Roedd Rhys Britton a Will Salter hefyd yn rasio, gan gystadlu yn ras gymhwyso Ymlid Unigol 4000m y Dynion, gan orffen yn 10fed ac yn 13eg yn y drefn honno.
Roedd Ioan Hepburn, Steffan Lloyd, a Jonah Jenkins ar y trac ar gyfer Ceirin y Dynion gyda phob un yn mynd drwodd i’r Ailgyfle, a Jenkins yn symud ymlaen i Rownd 2. Gan gymhwyso ar gyfer y rownd derfynol 7-12, byddai Jenkins yn y pen draw yn 10fed yn gyffredinol yn y digwyddiad.
Yn y cyfamser, cystadlodd Rory Gravelle, Will Perrett a Will Roberts yn rownd derfynol Dileu’r Dynion, gan ddod yn 10fed, yn 16eg ac yn 18fed yn y drefn honno.
Pêl-rwyd
Ar ôl diwedd y cyfnod grŵp, daeth Tîm Cymru i ben â’i ymgyrch Glasgow 2026 yn erbyn Tonga yn y gêm i benderfynu ar y 9fed-10fed safle, gan ddod yn 10fed yn y gystadleuaeth yn y pen draw ar ôl colli o 63-53.
Jwdo
Ar ddiwrnod 8 codwyd y llen ar y Jwdo, gyda thri athletwr o Gymru yn cystadlu.
Roedd Josh Bell wrthi yng nghategori -66kg y Dynion, gan ennill trwy IPPON yn erbyn Felix Okoko o Kenya yn Rownd y 32 cyn colli i Aiden Moffat o’r Alban yn y rownd nesaf.
Dechreuodd Lola Hodson ei hymgyrch hefyd ar fore Diwrnod 8, gan gwrdd â Priscillia Monthouel o Vanuatu yn Rownd yr 16 a heb wastraffu dim amser wrth iddi ennill trwy IPPON o fewn 20 eiliad. Yn y rownd gogynderfynol, daeth Lola yn erbyn Evelyn Beaton o Ganada, gan fynd i’r ailgyfle ar ôl colli trwy IPPON a wynebu Shraddha Kadubal Chopade o’r India. Gan ennill 1-0, aeth Lola drwodd i ymladd am Efydd yn erbyn Tatum Keen o Loegr, ond yn anffodus cafodd ei threchu i orffen yn bumed yn y gystadleuaeth.
Ymddangosodd Ashleigh Barnikel hefyd ar Ddiwrnod 8, gan wynebu Summer Shaw o’r Alban yn y rownd gogynderfynol. Er iddi golli 1-0, aeth Ashleigh drwodd i’r ailgyfle lle wynebodd Albanwraig arall sef Eva Ewing, ond ni allai symud ymlaen i’r rownd gynderfynol.
Bocsio
Roedd digon yn digwydd yn y cylch ar Ddiwrnod 8, gyda phedair gornest gynderfynol yn digwydd.
Rosie Eccles oedd y cyntaf, gan wynebu Arundhati Choudhary o’r India ac, er iddi golli yn y rownd gynderfynol, sicrhaodd Cludwr Baner Tîm Cymru fedal efydd yng nghategori 70kg y Menywod.
Roedd Orlando Holley-Sotomi yn wynebu Merven Clair o Mauritius yng nghategori 70kg y Dynion, ac unwaith eto dangosodd ei safon gyda buddugoliaeth drwy benderfyniad unfrudol i gyrraedd y rownd derfynol.
Roedd Connor Williams yn wynebu Garyn McAllister o Ogledd Iwerddon yng nghategori 90kg y Dynion, gan ennill hefyd drwy benderfyniad unfrydol i sicrhau ei le yn rownd derfynol Diwrnod 9.
Yn ddiweddarach yn y dydd, roedd Owain Harris-Allan yn wynebu gornest heriol arall, y tro hwn yn brwydro yn erbyn Sachin Sachin o’r India. Er i Owain Harris-Allan gael ei drechu, roedd yn fawreddog yn y golled a gadawodd Glasgow gydag Efydd.
Athletau
Daeth holl gyffro Tîm Cymru yn Stadiwm Scotstoun gyda’r nos, gyda Chapten y Tîm, Olivia Breen ac Issy Boffey yn y rowndiau terfynol.
Roedd Olivia Breen yn wynebu rownd derfynol Naid Hir y Menywod T38, a hawliodd Aur haeddiannol gyda Record Gemau newydd yn y broses, gan roi perfformiad gwych wrth iddi neidio 5.09 i ennill ail fedal yn Glasgow.
Ac yn y cyfamser, rhedodd Issy Boffey yn wych i ennill y pumed safle yn 800m y Menywod.