Roedd dwy fedal Aur a dwy fedal Arian arall yn y Beicio, yn ogystal â dwy fedal Arian yn y cylch bocsio, yn golygu bod diwrnod naw yn llawn medalau i Dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad Glasgow 2026.
Bowls
Gorffennodd Ross Owen a Dan Salmon eu hymgyrch Parau Dynion gyda’u gêm olaf yn Adran A yn erbyn Jerey, lle cadarnhaodd colled o 2-0 eu bod yn gorffen y tu allan i ddau uchaf y grŵp.
Roedd gan Amy Williams gêm enfawr yn Adran C Senglau’r Menywod wrth iddi wynebu rhif un y byd o Malaysia, Emma Firyana Saroji mewn gornest lle byddai’r enillydd yn ennill y cyfan. Roedd yna deimlad go iawn o achlysur yn yr SEC, a dangosodd Emma Firyana Saroji ei safon wrth iddi gipio buddugoliaeth o 2-0, gan adael Amy Williams yn ail yn y grŵp ac yn methu â sicrhau lle yn y rownd gynderfynol. Mae’n nodi diwedd Gemau cyntaf gwych i Amy Williams, a fu’n cystadlu bob dydd o Ddiwrnod 0 ar draws y cystadlaethau Senglau a Pharau.
Beicio
Yn gyntaf ar y trac roedd ras gymhwyso Gwibio’r Dynion, gydag Ioan Hepburn, Steffan Lloyd a Jonah Jenkins yn rasio am le yn y rowndiau terfynol 1/8. Daeth Jonah Jenkins yn 19eg yn y rownd agoriadol, tra bod Ioan Hepburn a Steffan Lloyd yn symud ymlaen ar ôl sicrhau’r 11eg a 15fed safle yn y drefn honno. Yn y rowndiau terfynol 1/8, fodd bynnag, ni lwyddodd y naill na’r llall i gyrraedd yr wyth olaf wrth iddynt gadw eu safleoedd cymhwyso.
Roedd James Ball a Matthew Rotherham hefyd yn ôl ar y trac, eisoes gyda medal Arian i’w henwau, y tro hwn yn cystadlu yn Gwibio Tandem B y Dynion. Wrth gymhwyso, roedd hi’n stori debyg wrth iddyn nhw sicrhau eu lle yn y rownd gynderfynol yn y trydydd safle; ac fe wnaethon nhw hyd yn oed yn well wedyn, gan guro Awstralia mewn dwy ras i gymhwyso ar gyfer y ras medal aur. Roedd hi’n ras dynn am yr Aur, gyda deuawd bwerus yr Alban, Neil Fachie MBE ac Aaron Pope, yn ennill y ras gyntaf cyn i James Ball a Matthew Rotherham gymryd yr ail; byddai’r drydedd yn mynd o blaid y pâr cartref wrth i James Ball a Matthew Rotherham hawlio eu hail Arian yn y Gemau.
Roedd Will Perrett, Rhys Britton a Will Roberts i gyd yn rhan o’r sesiwn fore hefyd, gan rasio yn Ras Safonol 10k y Dynion a phob un yn cymhwyso ar gyfer y rownd derfynol, lle methodd Rhys Britton â dechrau a daeth Will Perrett a Will Roberts yn 13eg ac yn 14eg yn y drefn honno.
Ar ôl diwrnod euraidd ar Ddiwrnod 8, roedd Anna Morris yn rownd derfynol Ras Pwyntiau 25k y Menywod gyda Carys Lloyd a Jess Roberts. Er i Carys Lloyd roi’r gorau iddi, roedd hi’n ras anhygoel i Anna Morris a Jess Roberts a gasglodd 66 a 52 pwynt i hawlio Aur ac Arian yn y drefn honno.
Roedd y ddeuawd lwyddiannus, Emma Finucane a Rhian Edmunds, hefyd yn ôl ar Ddiwrnod 9 a, gyda Megan Barker, roeddent yn anelu am y podiwm yn rownd derfynol Treial Amser 1000m y Menywod. Gorffennodd Rhian Edmunds yn nawfed, gorffennodd Megan Barker yn bumed a sicrhaodd Emma Finucane ei thrydedd Aur yn Glasgow 2026, gan osod Record Gemau o 01:05:285.
Jwdo
Roedd dau Judoka arall o Dîm Cymru wrthi ar Ddiwrnod 9, gyda Ben Moore a Holly Devall yn cystadlu.
Cafodd Ben Moore y dechreuad perffaith, gan ennill ei ornest Rownd 16 -73kg y dynion yn erbyn Chamara Repiyallage o Sri Lanka trwy IPPON, ond byddai’n cael ei orfodi i’r ailgyfle wrth iddo golli i Ethan Nairne o Loegr. Oddi yno, fe wnaeth buddugoliaeth o 10-1 ei baratoi ar gyfer gornest y fedal efydd, lle collodd 10-0 yn erbyn Joshua Green o Ogledd Iwerddon, gan ddod yn gyfartal bumed.
Yn Rownd 16 -70kg y Menywod, fe wnaeth Holly Devall wynebu Noemie Evenor o Mauritius am le yn y rownd gogynderfynol, a bachodd ei lle yno yn gyflym gyda buddugoliaeth trwy IPPON. Aoife Coughlan o Awstralia fyddai nesaf i Holly Devall, a sicrhaodd orffeniad cyffredinol o seithfed wrth iddi golli yn yr ailgyfle.
Athletau
Daeth Charlotte Henrich â’i hymgyrch drawiadol yn y 400m i Fenywod yn Glasgow 2026 i ben gyda pherfformiad cryf yn y rownd derfynol, gan golli ar le yn y tri uchaf o drwch blewyn wrth iddi orffen yn bedwerydd.
Yn ddiweddarach yn Stadiwm Scotstoun, roedd Tom Walley yn rownd derfynol Naid Polyn y Dynion, gan ddod yn bumed.
Yn y cyfamser, camodd Jake Heyward i’r trac ar gyfer rownd derfynol Milltir y Dynion, gan ddod yn boenus o agos at y podiwm wrth iddo orffen yn bedwerydd, 0.13 eiliad y tu ôl i’r efydd.
Ac yn rownd derfynol Milltir y Menywod, daeth Ava Lloyd yn 6ed.
Bocsio
Roedd gan Dîm Cymru ddau yn rownd derfynol y Bocsio yn yr SEC ar Ddiwrnod 9, gydag Orlando Holey-Sotomi a Connor Williams yn brwydro am Aur.
Wynebodd Orlando Holley-Sotomi wrthwynebydd o Ogledd Iwerddon ar ffurf Jon McConnell yn rownd derfynol 70kg y Dynion, gornest a brofodd yn anhygoel o dynn ond yn y pen draw John McConnell aeth â hi wrth i Orlando adael gemau cyntaf gydag Arian.
Yn fuan wedyn, roedd Williams yn y cylch gydag Isaac Okoh o Loegr yn rownd derfynol 90kg y Dynion, gan sicrhau Arian wrth iddo brofi Gemau’r Gymanwlad am y tro cyntaf.