Bydd Rosie Eccles, pencampwr bocsio Gemau’r Gymanwlad Birmingham 2022, yn cario baner Cymru, tra bod pencampwr bowls y Gymanwlad, Daniel Salmon, wedi cael ei ddewis i gario Baton y Brenin wrth i Dîm Cymru fynd i mewn i’r OVO Hydro nos Iau.

Mae’r penodiadau’n cydnabod dau athletwr sydd nid yn unig wedi cyrraedd brig eu priod gampau ond sydd wedi dangos yn gyson y gwerthoedd sy’n diffinio Tîm Cymru. Trwy flynyddoedd o ymroddiad, gwytnwch ac ymrwymiad, mae’r ddau wedi ennill edmygedd cyd-chwaraewyr, hyfforddwyr a chystadleuwyr, gan eu gwneud yn ddewisiadau addas i arwain y genedl ar lwyfan y Gymanwlad.

Cafodd y ddau eu synnu gan Chef de Mission Tîm Cymru, Gethin Jones, wrth iddynt baratoi ar gyfer ymrwymiadau arferol y cyfryngau.

Cyrhaeddodd Rosie yn disgwyl ffilmio cyfweliad yn myfyrio ar ei charreg filltir wrth ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed, tra bod Daniel yn meddwl ei fod yn dod i gael tynnu llun Tîm Cymru. Yn hytrach, cyfarfu’r ddau â Jones, a ddatgelodd eu bod wedi cael eu dewis i arwain Tîm Cymru i’r Seremoni Agoriadol.

Roedd y newyddion yn foment emosiynol i ddau o athletwyr uchaf eu parch Cymru, sydd bellach yn ychwanegu pennod falch arall at yrfaoedd nodedig yn y Gymanwlad.

Daeth Rosie yn un o enwau amlwg bocsio Cymru ar ôl ennill aur y Gymanwlad yn Birmingham 2022 ac mae wedi parhau i gynrychioli Cymru gyda rhagoriaeth ar y llwyfan rhyngwladol. Mae Daniel wedi sefydlu ei hun ymhlith bowlwyr mwyaf blaenllaw’r byd, gyda’i lwyddiant yn y Gymanwlad yn adlewyrchu blynyddoedd o gysondeb, ymroddiad a rhagoriaeth yn y gamp.

Gyda’i gilydd, byddant yn arwain Tîm Cymru i’r OVO Hydro wrth i Gemau’r Gymanwlad Glasgow 2026 ddechrau’n swyddogol, gan gario symbolau eu cenedl â balchder o flaen cynulleidfa fyd-eang.

Ychwanegodd Chef de Mission Tîm Cymru, Gethin Jones: “Dewis ein cynrychiolwyr i’r Seremoni Agoriadol yw un o’r breintiau mwyaf o fod yn Chef de Mission, ac mae Rosie a

Dan yn haeddu’r anrhydedd hon yn llwyr. Maen nhw’n dalentau eithriadol, ond yn bwysicach fyth, maen nhw’n llysgenhadon rhagorol ar gyfer chwaraeon Cymru.

“Mae Rosie wedi ysbrydoli cymaint trwy ei chyflawniadau yn y cylch a’i phenderfyniad i wisgo crys Cymru gyda balchder. Mae ganddi bersonoliaeth heintus sy’n cael effaith gadarnhaol ar bawb o’i chwmpas.

“Mae Dan wedi dangos dewrder, gwytnwch a rhagoriaeth chwaraeon anhygoel trwy gydol ei yrfa, gan obeithio ychwanegu at ei rediad rhyfeddol yng Ngemau’r Gymanwlad. Mae’n parhau i fod yn fodel rôl i’r genhedlaeth nesaf ledled Cymru.”