Wedi’i enwi’n swyddogol yn Ddiwrnod 0 Gemau’r Gymanwlad Glasgow 2026, doedd dim byd dibwys am dîm Fowls Tîm Cymru ar ddiwrnod y Seremoni Agoriadol.
Roedd tîm Bowls Tîm Cymru wrthi ddwywaith cyn i’r Gemau gael eu hagor yn swyddogol yn yr OVO Hydro, gydag Owen Ross ac yna’r cyfuniad o Amy Williams a Lauren Gowen yn cynrychioli eu gwlad drws nesaf yn yr SEC.
Owen Ross oedd y cyntaf i gamu i’r llwyfan cystadlu yn Senglau’r Dynion, gan wynebu Mohammed Ayub Qureshi o Bacistan. Hwyliodd enillydd medal efydd Birmingham 2022 drwy’r ornest, gan ennill y set gyntaf 12-5 cyn cipio’r fuddugoliaeth gyda sgôr o 17-0 yn yr ail.
Mae’r fuddugoliaeth gyfforddus o 2-0 yn rhoi Owen mewn sefyllfa gref ar gyfer ei ail gêm o’r Gemau yn erbyn Sam Tolchard o Loegr ddydd Gwener.
Camodd Amy Willams a Lauren Gowen i fyny wedyn a dangos eu sgiliau yn erbyn gwrthwynebwyr caled Canada ar ffurf Emma Boyd a Kelly McKerihen.
Roedd y pâr yn ymddangos am y tro cyntaf a llwyddon nhw i dawelu eu nerfau gan ddod allan ar y brig, gan sicrhau buddugoliaeth gref o 9-2 yn y set agoriadol a’i gefnogi gyda buddugoliaeth y bu’n rhaid brwydro’n galed amdani o 6-4 yn yr ail.
Yn dilyn cael eu blas cyntaf o gystadlu, roedd hi’n bryd i Dîm Cymru fynd i’r OVO Hydro ar gyfer Seremoni Agoriadol y Gemau.
Cafodd Cludwr y Faner, Rosie Eccles a Chludwr y Baton, Dan Salmon yr anrhydedd o arwain eu gwlad i’r Seremoni Agoriadol, ar ôl cael eu synnu gan Chef de Mission Tîm Cymru, Gethin Jones, gyda’r newyddion y diwrnod blaenorol.
Wrth i athletwyr o Gymru gael croeso cynnes yn yr Hydro, roedd Tŷ Tîm Cymru yn llawn cyffro a balchder wrth i barti gwylio fwynhau’r sioe.
Roedd Tîm Cymru yn falch o gydweithio â Browne Jacobson a chroesawu Molly Stephens i gyflwyno wrth i bartneriaid, cydweithwyr a chefnogwyr ymuno â ni yn ein cartref ar gyfer Gemau’r Gymanwlad.