Beicio

Dechreuodd y diwrnod gyda ras Ymlid (Pursuit) Tîm 4000m y Menywod yn y Sir Chris Hoy Velodrome, gyda Megan Barker, Anna Morris, Ciara Oliva a Jess Roberts yn dod yn drydydd i gyrraedd y ras efydd, lle gwnaethant drechu Lloegr yn wych i hawlio’r fedal.

Roedd tîm y Dynion hefyd wrthi, gan ddod yn bedwerydd yn eu ras gymhwyso Tîm Ymlid y Dynion 4000m i symud ymlaen i’r ras efydd, lle gwnaethon nhw golli allan ar y podiwm i Seland Newydd.

Yn dechrau’r sesiwn prynhawn i Dîm Cymru roedd James Ball a Matthew Rotherham gan fwrw ati yn syth i sicrhau medal feicio gyntaf eu gwlad yn y Gemau. Gan sicrhau amser o 01:00:546, enillodd y pâr Arian yn y Treial Amser 1000m Tandem B y Dynion.

Daeth ras y menywod i ben mewn chwinciad chwannen wrth i dîm Gwibio’r Menywod gyrraedd y trac ar gyfer y rhagrasys yn sesiwn y bore. Roedd y triawd Emma Finucane, Lowri Thomas a Rhian Edmunds fel mellt wrth iddynt gymhwyso ar gyfer ras y fedal aur yn y safle cyntaf, gan osod record newydd yng Ngemau’r Gymanwlad yn y broses gyda 46.972. Yn anhygoel, fe wnaethon nhw ailadrodd y gamp yn ddiweddarach yn y dydd, gan rasio 46.760 i guro Lloegr i gipio’r Aur.

Bowls

Daeth Dan Salmon a Ross Owen ynghyd unwaith eto yn y SEC yn eu hymgyrch Parau Dynion Adran A. Ar ôl colli o 2-1 ar Ddiwrnod 6, bu’n rhaid i’r pâr weithio’n galed i ddod yn ôl o set i lawr ac ennill gêm dynn trwy gêm i benderfynu.

Ymddangosodd Amy Williams yn ddiweddarach yn y dydd, gan wynebu Mildred Mkandawir o Zambia yn Adran C, a pharhau â’i rhediad da gyda buddugoliaeth ddominyddol o 2-0.

Athletau

Draw yn Stadiwm Scotstoun, daeth Ava Lloyd a Melissa Courtney-Bryant yn drydydd ac yn 15fed yn y drefn honno yn rhagrasys Milltir y Menywod, gydag Ava yn gosod PB newydd o 04.31.41 wrth iddi gyrraedd y rownd derfynol.

Roedd Charlotte Henrich yn ôl ar y trac yn gynnar yn y prynhawn, i ddod yn ail yn ei rhagras ac wythfed yn gyffredinol yn rownd gynderfynol 400m y Menywod, gan ennill lle yn y rownd derfynol.

Roedd Just Davies yn rownd gynderfynol 800m y Dynion ond, er gwaethaf amser gorau’r tymor, fe fethodd â sicrhau lle yn y rownd derfynol.

Codi pwysau

Tro’r Dynion oedd hi’n yn y categori +110kg yn yr Armadillo gyda’r nos ar Ddiwrnod 7, gyda James Wales yn camu i’r llwyfan i Dîm Cymru gan berfformio’n wych o flaen torf drydanol; gyda chyfanswm anferthol o 336kg, gorffennodd Wales yn bedwerydd.

Pêl-rwyd

Daeth Tîm Cymru i ben yn Ngrŵp B yn erbyn tîm o Jamaica a oedd wedi ennill tair o’u pedair gêm yn barod, gan golli 24-78 yn y pen draw, canlyniad a fydd yn eu gweld yn cymryd rhan yn y gêm i benderfynu ar y 9fed-10fed safle.