Enillodd Capten Tîm Cymru, Olivia Breen, fedal Arian yn yr Athletau, a hawliodd efeilliaid Roper fedal Efydd yr un yn y Gymnasteg Artistig, wrth i Dîm Cymru fwynhau diwrnod llwyddiannus arall yng Ngemau’r Gymanwlad Glasgow 2026.
Bowls
Daeth diddordeb cyntaf Cymru am y dydd yn y Bowls, lle chwaraeodd Parau’r Menywod gêm yn llawn tensiwn gyda Seland Newydd. Aeth y gêm i’r gêm i benderfynu, ac ar ôl ychydig funudau hir i fesur y bêl fuddugol, Seland Newydd aeth â hi. Roedd Amy Williams a Lauren Gowen, fodd bynnag, wedi gwneud mwy na digon i gyrraedd y rownd gynderfynol trwy gyfres o bedair buddugoliaeth cyn colli heddiw.
A daeth y rownd gynderfynol honno yn ddiweddarach yn y dydd, wrth iddyn nhw wynebu Lloegr am le yn y gêm medal aur. Bu digon o ddrama wrth iddi fynd i gêm i benderfynu; ac ar ôl rollercoaster o emosiynau, aeth y gêm i benderfynu i Loegr ar y bêl olaf. Mae hynny’n gosod Amy Williams a Lauren Gowen yn y gêm medal efydd yn erbyn Gogledd Iwerddon.
Gyda chwpl o ganlyniadau siomedig hyd yn hyn yn y twrnamaint, dangosodd Ross Owen hunanfeddiant yn erbyn ei wrthwynebydd Diwrnod 4, Rajnesh Prasad o Fiji. Er na fydd yn symud heibio i’r grŵp Adran C, gall Ross fod yn falch o’i hun ar ôl gorffen ei ymgyrch Senglau Dynion gydag arddangosfa ddominyddol o 2-0.
Ar ôl i’w grŵp ddod i ben, gallai’r Para-Barau Cymysg B2-B3 edrych ymlaen at rownd gynderfynol yn gynnar gyda’r nos. Hefyd yn wynebu’r Saeson, cystadlodd Julie Thomas a Steffan James yn ddewr ond colli yn y pen draw o 2-0, a byddant yn chwarae Seland Newydd yn y gêm i ennill y fedal efydd.
Athletau
Roedd yn ddiwrnod agoriadol prysur i Dîm Athletau Cymru, gyda Jeremiah Azu yn agor y cystadlu gan wibio i amser 10.10 yn y 100m wrth iddo ennill ei rownd 1, gan ddod yn 6ed yn gyffredinol, a sicrhau ei le yn y rownd gynderfynol.
Roedd capten Tîm Cymru, Olivia Breen, hefyd ar y trac yn y sesiwn Athletau agoriadol. Daeth Olivia yn gyfartal â’i hamser gorau am y tymor yn y T37/38 100m y Menywod, gan redeg 13.05 i sicrhau ei lle yn y rownd derfynol, cyn gwneud yr un peth yn y rownd derfynol, gan gofnodi 12.86 a hawlio’r fedal Arian.
Ymddangosodd Amber Simpson hefyd ar Ddiwrnod 4, yn cystadlu ym Morthwyl y Menywod. Enillodd ei phellter o 59.14m y 13eg safle yn y rowndiau cymhwyso.
Ellie Bowen oedd athletwraig olaf Tîm Cymru yn Stadiwm Scotstoun, gan ddangos ei medr yn rownd derfynol Taflu’r Pwysau F57. Dangosodd Ellie gryfder anhygoel a gosod amser gorau newydd o 6.48m, gan ddod yn chweched.
Nofio
50m Dull Cefn y Menywod oedd y cyntaf i Dîm Cymru yn y pwll, gyda Medi Harris a Rebecca Sutton yn sicrhau eu lle yn y rownd gynderfynol. Ni fyddai’r naill na’r llall yn cymhwyso ar gyfer y rownd derfynol, ond cafodd Sutton ddiwrnod i’w gofio wrth iddi dorri ei hamser gorau ddwywaith, gan nofio’r rownd gynderfynol mewn amser o 28.67.
Cyrhaeddodd Matt Richards, Dan Jones a Harry Milne y rownd gynderfynol yn y 100m Dull Rhydd y Dynion ar ôl dod yn 3ydd, 11eg a 12fed yn y drefn honno. Gyda Harry Milne a Dan Jones yn 13eg ac yn 16eg yn y drefn honno, cymhwysodd Richards ar gyfer y rownd derfynol ar ôl gorffen yn 4ydd.
Yn y cyfamser, ymddangosodd Amy Crowley hefyd yn sesiwn y bore, gan ddod yn 13eg yn rhagrasys 50m Dull Broga’r Menywod cyn sicrhau’r safle hwnnw hefyd yn y rownd gynderfynol.
Parhaodd Theodora Taylor â’i pherfformiadau ardderchog yn Glasgow wrth iddi gystadlu yn rownd derfynol 100m Dull Rhydd y Menywod. Gorffennodd yn y pedwerydd safle trwy sicrhau record bersonol newydd a record Cymru o 00:54:00.
Yn dilyn arwriaeth Diwrnod 3 lle bu’n angori i dîm Ras Gyfnewid 4×200 y Dynion i gipio’r Efydd, roedd Tyler Melbourne-Smith yn ôl yn y pwll ar gyfer rownd derfynol 800m Dull Rhydd y Dynion, gan ddod yn chweched.
Ras Gyfnewid 4x200m y Menywod oedd ras olaf y noson i Dîm Cymru, gan orffen yn seithfed yn y rownd derfynol.
Bocsio
Y cyntaf yn y cylch i Gymru oedd enillydd medal efydd Birmingham 2022, Owain Harris-Allan. Cafodd y dyn ifanc 22 oed ddechrau perffaith yn erbyn Niven Chemben o Mauritius, gan ddangos ei brofiad a’i safon i ddod i’r brig trwy benderfyniad unfrydol yn erbyn gwrthwynebydd anodd i symud ymlaen i’r rownd gogynderfynol.
Hefyd yn ymddangos yn y sesiwn gynnar roedd Orlando Holley-Sotomi, a wynebodd ornest heriol yn erbyn Paddy Hewitt o Loegr. Roedd yn rhy gryf i’w wrthwynebydd, fodd bynnag, a brwydrodd Orlando yn wych i ennill trwy benderfyniad hollt a chyrraedd y rownd gogynderfynol.
Yn olaf yn y cylch roedd Dan Pitt, ac yn dilyn ei fuddugoliaeth yn Rownd 32 cafodd fuddugoliaeth trwy benderfyniad unfrydol yn erbyn Kua Gunua Mua o Papa New Guinea i symud ymlaen i’r rownd gogynderfynol.
Gymnasteg Artistig
Roedd bwrlwm yn y stadiwm yn Rownd Derfynol Llofnaid y Menywod, a chynyddodd hynny wrth i’r sesiwn fynd yn ei blaen; ac am reswm da, wrth i’r efeilliaid Roper berfformio’n wych i hawlio canlyniadau arbennig. Gyda chyfanswm o 13.433, sicrhaodd Abigal Roper bedwaredd fedal Efydd Tîm Cymru yn y Gemau a’r fedal Llofnaid gyntaf ers 1994, tra bod ei chwaer Emily yn bedwerydd.
Yn fuan wedyn daeth Rownd Derfynol y Bariau Anwastad, gydag Emily Roper yn ôl wrthi ochr yn ochr â Jemima Taylor. Wrth i Jemima ddod yn seithfed, roedd Emily yn benderfynol y tro hwn gan gofnodi cyfanswm o 13.666 i hawlio Efydd, y tro cyntaf erioed i gymnastwr o Gymru ennill medal ar y Bariau Anwastad.
Codi pwysau
Ar ôl sesiwn hynod hapus i Nikole Roberts ar Ddiwrnod 3, roedd yr hwyliau yn uchel ar gyfer Codi Pwysau Tîm Cymru wrth i Catrin Haf Jones gamu i’r llwyfan yng nghategori 58kg y Menywod. Gan ddangos dewrder a chryfder, bu bron i enillydd medal efydd Pencampwriaethau’r Gymanwlad 2024 gael record bersonol yn y plwc ar ei ffordd i hawlio’r chweched safle.
Pêl-fasged Cadair Olwyn 3×3
Parhaodd y cyffro yng nghanol awyrgylch brwd arall i’n timau Pêl-fasged Cadair Olwyn 3×3, a oedd ill dau yn wynebu profion anodd yn erbyn yr Alban gyda phopeth yn y fantol yn eu grwpiau priodol.
Yn gyntaf i Dîm Cymru, gorffennodd y Menywod Grŵp B gyda gêm gorfforol heb unrhyw beth i’w gwahanu. Ar ôl methu bwcedi di-ri er gwaethaf chwarae gwych, collodd Cymru o 16-2 – sgôr nad oedd yn adlewyrchu’r gêm o gwbl – yn erbyn tîm o’r Alban a oedd yn fwy clinigol. Bydd y menywod nawr yn wynebu’r gêm ail gyfle yn erbyn Canada gyda’r gobaith o fynd drwodd i rownd pedwar olaf y gystadleuaeth.
Roedd hefyd yn her ddwys i’r Dynion, a orffennodd eu grŵp gyda cholled o 21-10 i westywyr y Gemau. Fel y menywod, fodd bynnag, byddan nhw’n mynd drwodd i’r gêm ail gyfle i wynebu Awstralia am le yn y rownd gynderfynol.