Am y trydydd diwrnod yn olynol yn Glasgow 2026, ychwanegodd Tîm Cymru at ei medalau, gyda thîm Ras Gyfnewid 4x200m y Dynion yn ennill Efydd mewn diwrnod yn llawn uchafbwyntiau.
Pêl-rwyd
Creodd brwydr rhwng dwy o’r gwledydd cartref achlysur enfawr ym Mhêl-rwyd y Menywod, ac yn wir daeth torf frwd i’r Hydro.
Wedi’u hysgogi gan gefnogaeth gartref swnllyd, agorodd yr Alban fwlch yn y chwarter cyntaf, ac er i Gymru ddominyddu’r ail chwarter, llwyddodd tîm cartref y Gemau i gadw mantais na allai Tîm Cymru ei hadennill, gyda’r gêm yn gorffen 56-47 o blaid yr Alban.
Bowls
Yn y Bowls, agorodd diwrnod Tîm Cymru gyda phedwaredd gêm Ross Owen o’r Gemau yn Adran C. Er bownsio’n ôl o’r golled gyda buddugoliaeth ar Ddiwrnod 2, ni allai Ross fanteisio ar y momentwm hwnnw i oresgyn her yr Albanwr Jason Banks, a gipiodd y fuddugoliaeth wrth i’r gêm fynd i gêm i benderfynu.
Codwyd ysbryd y Cymry yn fuan wedyn wrth i Amy Williams a Lauren Gowen gamu i fyny ar gyfer eu pedwaredd gêm yn y Parau Menywod, yn fuan ar ôl hawlio eu pedwaredd fuddugoliaeth o’r gystadleuaeth, gan ddominyddu Kenya gyda buddugoliaeth o 13-0 a 7-0 dros ddwy set.
Yng ngêm olaf Diwrnod 3 i Dîm Cymru, chwaraeodd y Para-Barau Cymysg B2-B3 gêm dynn iawn yn erbyn yr Alban. Ar ôl syrthio ar ei hôl hi yn y set gyntaf, gwnaeth Julie Thomas a Steffan James yn dda i ddod yn gyfartal yn yr ail, cyn sicrhau buddugoliaeth syfrdanol yn y gêm i benderfynu.
Nofio
Dechreuodd nofwyr Tîm Cymru y diwrnod mewn steil, gyda Theodora Taylor, Sophie Davies a Meghan Higgs yn cystadlu yn rowndiau Dull Rhydd 100m y Menywod. Yn ffres ar ôl sicrhau medal Efydd i Gymru yn y Ras Gyfnewid 4x100m Cymysg y noson gynt, taranodd Theodora Taylor i orffen yn drydydd i sicrhau lle yn y rownd gynderfynol, cyn sicrhau ei lle yn y rownd derfynol gan orffen yn y 4ydd safle yn y rownd gynderfynol. Yn y cyfamser, sicrhaodd Sophie Davies hefyd ei lle yn y rownd gynderfynol yn 16eg, ond roedd Meghan Higgs yn anlwcus iawn i golli allan ar y rownd honno o lai na hanner eiliad.
Roedd Josh Inglis a Kyle Booth yn ôl gyda’i gilydd hefyd, gyda’r ddau’n cystadlu yn y 50m yn Null Broga’r Dynion. Daeth Josh Inglis yn 26ain yn y rhagrasys, tra bod Kyle Booth wedi sicrhau ei le yn y rownd nesaf trwy orffen yn y 13eg safle, cyn sicrhau’r un safle yn y rownd gynderfynol.
Nofiodd Meghan Willis ei ras gyntaf yn Glasgow 2026, gan gystadlu yn ras S9 100m Dull Cefn y Menywod – digwyddiad lle mae hi wedi bod yn bencampwraig genedlaethol Cymru am y ddwy flynedd ddiwethaf. Cafodd Meghan ddechrau da gan ddod yn 7fed yn y rhagras cyn selio’r 6ed safle yn y rownd derfynol.
Daeth ras olaf sesiynau’r bore gyda thîm Ras Gyfnewid Dull Rhydd 4x200m Dynion Cymru yn camu i fyny. Daeth y 4ydd safle yn y rhagrasys â nhw i’r rownd derfynol, ac mewn rownd derfynol llawn tensiwn, sicrhaodd y cyfuniad o Matt Richards, Dan Jones, Kieran Bird a Tyler Melbourne-Smith bedwaredd fedal Cymru yn y Gemau gydag Efydd.
Bocsio
Helen Jones oedd y cyntaf o ddau ymladdwr o Gymru i fynd i’r cylch ar Ddiwrnod 3, gan wynebu gwrthwynebydd aruthrol ar ffurf Kadijat Ajishola o Nigeria gan gipio buddugoliaeth wych i symud ymlaen i’r wyth olaf yn y 54kg i Fenywod.
Aeth Connor Williams i’r cylch gyda’r nos, yn wynebu Petrus Jacobus Kotze o Namibia yn y Rownd yr 16 olaf. Gan ddangos hunanfeddiant, cryfder a phŵer, dominyddodd Williams gan ennill gyda’r dyfarnwr yn dod â’r ornest i ben.
Gymnasteg Artistig
Yn dilyn Rownd Derfynol Tîm y Dynion ar Ddiwrnod 1, roedd Elliot Vernon ac Alex Niscoveanu wrthi yn rownd derfynol Pob Cyfarpar Dynion Diwrnod 3, y ddau yn mwynhau eiliadau rhagorol.
Ar y tri chyfarpar, sgoriodd Vernon yn uwch na’i sgôr gymhwyso ac fe gurodd y ddau eu safleoedd cymhwyso, gan ddod yn nawfed ac 11eg yn y drefn honno.
Yn rownd derfynol Pob Cyfarpar y Menywod, fe wnaeth Ruby Evans ac Emily Roper gystadlu’n ffyrnig i hawlio’r chweched a’r seithfed safle yn y drefn honno.
Codi pwysau
Roedd hi’n ddiwrnod cyntaf y Codi Pwysau yn Glasgow 2026, gyda Nikole Roberts yn dechrau pethau i Dîm Cymru yng nghategori 48kg y Menywod.
Gosododd plwc agoriadol trawiadol o syml o 67kg y naws ar gyfer sesiwn wych, gan lwyddo gyda phlwc o 70kg cyn dangos ei chryfder i gyflawni plwc o 84kg a hawlio cyfanswm o 154kg, gan ei gosod yn 6ed yn y gystadleuaeth.
Pêl-fasged Cadair Olwyn
Ar ôl creu hanes ar Ddiwrnod 2, roedd dau dîm Pêl-fasged Cadair Olwyn 3×3 Tîm Cymru wrthi unwaith eto.
Fe wnaeth tîm y Dynion wynebu tîm pwerus o Dde Affrica a oedd yn rhy glinigol ar draws y cwrt, ac er iddyn nhw dyfu i mewn i’r gêm, gan sgorio rhai goliau gwych a dod yn anhygoel o agos at ddod â’r gêm yn gyfartal o fewn y funud olaf, syrthiodd Cymru i golled o 15-12 yng Ngrŵp B.
Ar ochr menywod y twrnamaint, cafodd Tîm Cymru amser symlach ar y cwrt, gan ddominyddu’n ddidrugaredd i gipio’r fuddugoliaeth o 17-1 dros Nigeria.