Mae Tîm Cymru wedi cyhoeddi heddiw y bydd Gareth Davies yn rhoi’r gorau i’w swydd fel Cadeirydd Gemau’r Gymanwlad Cymru ar ddiwedd ei dymor presennol ym mis Mawrth 2027.
Penodwyd Gareth yn Gadeirydd ym mis Ebrill 2023 a chyda chefnogaeth y Prif Swyddog Gweithredol a’r Bwrdd, mae wedi arwain y sefydliad trwy gyfnod arwyddocaol i Dîm Cymru a mudiad chwaraeon ehangach y Gymanwlad, gan gynnwys y paratoi ar gyfer Gemau’r Gymanwlad yn Trinidad a Tobago yn 2023 a Gemau’r Gymanwlad 2026 yn Glasgow, a chymryd rhan ynddynt.
Bydd Gareth yn aros yn y swydd tan fis Mawrth 2027 er mwyn sicrhau bod arweinyddiaeth y Bwrdd yn trosglwyddo’n llyfn a bydd yn parhau i gefnogi Tîm Cymru wrth i’w gylch presennol ar y Bwrdd ddod i ben.
Mae’r broses o recriwtio Cadeirydd Annibynnol newydd i Gemau’r Gymanwlad Cymru bellach ar agor. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain Tîm Cymru ar gam nesaf ei daith Gymanwlad, gan gynnwys Gemau Ieuenctid y Gymanwlad ym Malta yn 2027 a’r paratoadau ar gyfer Gemau’r Gymanwlad 2030 yn India.
Bydd y broses recriwtio yn chwilio am unigolyn sydd â’r arweinyddiaeth, y llywodraethiant a’r profiad strategol i weithio gyda’r Bwrdd, y Prif Swyddog Gweithredol, staff, athletwyr, Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol a phartneriaid i barhau i ddatblygu Tîm Cymru a’i rôl o fewn mudiad chwaraeon y Gymanwlad.
Dywedodd Cadeirydd Gemau’r Gymanwlad Cymru, Gareth Davies:
“Wrth i mi orffen fy nhymor pedair blynedd fel Cadeirydd Gemau’r Gymanwlad Cymru, rwy’n meddwl yn ôl gyda balchder aruthrol am yr hyn yr ydym wedi’i gyflawni gyda’n gilydd.
Mae’r sefydliad wedi bod trwy gyfnod sylweddol o newid a thrawsnewid. Rydym wedi cryfhau ein sefyllfa ariannol, wedi parhau i adeiladu sefydliad cryf a chynaliadwy, ac wedi cyflawni Gemau Glasgow 2026 hynod lwyddiannus a oedd yn arddangos talent, penderfyniad ac ysbryd Cymru ar lwyfan y Gymanwlad.
Ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb angerdd, ymrwymiad a gwydnwch holl gymuned Gemau’r Gymanwlad Cymru. O’n hathletwyr a’n Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol i’n staff, ein Bwrdd, ein partneriaid a’n cefnogwyr, mae wedi bod yn fraint i mi gael gweithio ochr yn ochr â chymaint o bobl dalentog ac ymroddedig sy’n rhannu’r un gred yn yr hyn y gall Tîm Cymru ei gyflawni.
Mae wedi bod yn anrhydedd enfawr i wasanaethu fel Cadeirydd a chwarae rhan ar y daith hon. Rwy’n gadael y sefydliad mewn sefyllfa gref, gyda gwaddol balch o’r cylch hwn a gobaith mawr yn ei ddyfodol. Does gen i ddim amheuaeth y bydd Gemau’r Gymanwlad Cymru a Thîm Cymru yn parhau i fynd o nerth i nerth.”
Ynghyd ag ymadawiad arfaethedig Gareth, bydd Wendy Barbour hefyd yn rhoi’r gorau i’w swydd fel Cyfarwyddwr Anweithredol ar ddiwedd cylch presennol y Bwrdd ym mis Mawrth 2027, ar ôl 12 mlynedd o wasanaeth ar Fwrdd Gemau’r Gymanwlad Cymru.
Mae Wendy wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Dîm Cymru yn ystod ei 12 mlynedd ar y Bwrdd, gan ddod â’i phrofiad, ei gwybodaeth a’i dealltwriaeth i’r sefydliad a chefnogi Tîm Cymru trwy sawl cylch Gemau’r Gymanwlad.
Dywedodd Helen Phillips MBE, Llywydd Gemau’r Gymanwlad Cymru:
“Roedd 2023 – 2027 yn gyfnod trawsnewidiol arwyddocaol i fudiad Chwaraeon y Gymanwlad. Roedd gan y bwrdd fwriad clir i wthio gweledigaeth fasnachol, ac roedd rôl y bwrdd gyda’r Prif Swyddog Gweithredol yn ffactor hanfodol o ran cynnal y momentwm hwn. Ein prif rôl yw darparu’r amgylchedd gorau posibl i’n hathletwyr allu anelu at gyflawni eu perfformiad personol gorau. Mae’r Bwrdd dan gadeiryddiaeth Gareth yn ystod y cyfnod hwn yn sicr wedi cyflawni hyn. Hoffwn ddiolch i Gareth am ei arweiniad i’r bwrdd, am gyfrannu ei brofiad eang a rhannu ein gwerthoedd ynghylch llywodraethiant da ac egwyddorion sy’n rhoi athletwyr yn gyntaf.
Mae Wendy Barbour wedi bod yn hollbwysig wrth gefnogi’r trawsnewid a sefydlogi twf ariannol Gemau’r Gymanwlad dros 3 chylch; mae hyn yn cynnwys cefnogi’r Prif Swyddog Gweithredol, y Cadeirydd a’r bwrdd ar draws y portffolio buddsoddi ac ariannol. Roedd Wendy yn Gyfarwyddwr Nawdd SSE yn ystod Glasgow 2014 ac mae’n briodol ei bod yn gorffen ei chyfnod yn dilyn llwyddiant Glasgow 2026 – Diolch Wendy am eich ymrwymiad i drosglwyddo gwybodaeth a chynllunio olyniaeth yn effeithlon”.
Bydd y Cadeirydd Annibynnol newydd yn ymgymryd â’r rôl ar adeg bwysig yn natblygiad Tîm Cymru, gyda’r paratoadau ar gyfer Malta 2027 eisoes ar y gweill a’r sefydliad yn edrych ymlaen at gylch nesaf Gemau’r Gymanwlad.
Bydd Gemau Ieuenctid y Gymanwlad ym Malta yn rhoi’r cyfle nesaf i athletwyr ifanc Cymru gynrychioli Tîm Cymru ar y llwyfan rhyngwladol, cyn i’r sefydliad edrych tuag at Gemau’r Gymanwlad 2030 yn Amdavad, India.
Bydd y Bwrdd nawr yn symud ymlaen â’r broses o recriwtio olynydd i Gareth, gyda rhagor o fanylion am swydd wag y Cadeirydd a’r broses ymgeisio ar gael fel rhan o’r ymgyrch recriwtio.