Rygbi Saith Bob Ochr
G | S | B | Total |
---|---|---|---|
0
|
0
|
0
|
0
|
Cyflwynwyd Rygbi Saith Bob Ochr y Dynion am y tro cyntaf yng Ngemau Kuala Lumpur 1998, gyda thîm y Menywod yn cael ei gynnwys yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad 2017 a Gemau Arfordir Aur 2018. Mae gemau rygbi 7 bob ochr yn cael eu cynnal ar gae rygbi maint llawn. Mae saith chwaraewr yn cystadlu i bob tîm yn lle 15, ac mae’n cynnwys dau hanner o saith munud yr un. Bydd Cymru yn chwarae tîm cryf o ddynion ym Mirmingham, yn anffodus methodd tîm y menywod a chymhwyso.