Pêl-Foli Traeth

G S B Total
0
0
0
0

Mae Pêl-foli Traeth yn dychwelyd ar ôl ei hymddangosiad cyntaf llwyddiannus ar yr Arfordir Aur 2018. Bydd dynion a menywod yn mynd i’r tywod i gystadlu am y medalau. Bydd timau o ddau yn mynd benben ar y tywod gan ddechrau pob rali drwy serfio’r bêl dros y rhwyd a fydd yn gweld y bêl yn cael ei tharo uchafswm o dair gwaith ar un ochr cyn cael ei chyfeirio’n ôl ar draws y rhwyd. Mae’r nôl ac ymlaen hyn ar draws y rhwyd yn parhau tan i un tîm ennill y rali. Yn 2018 enillodd Awstralia’r gystadleuaeth dynion a Chanada’r menywod. Nid yw Cymru erioed wedi cystadlu â thîm Pêl-foli Traeth.


© 2025 Team Wales