Paffio

G S B Total
6
14
21
41

Yn gymysgedd o gryfder meddyliol a chorfforol, bydd athletwyr yn mynd benben â’i gilydd yn y ring mewn brwydr o sgil a stamina. Gwnaeth bocsio ei ymddangosiad cyntaf yng Ngemau’r Ymerodraeth 1930, ac fel camp graidd mae wedi bod ym mhob un ers hynny. Mae gan Dîm Cymru 41 o fedalau paffio i’w henw, a’r Arfordir Aur yw eu Gemau gorau erioed. Lauren Price oedd y bocsiwr benywaidd cyntaf i Gymru yng Ngemau Glasgow 2014, a aeth ymlaen i fod y fenyw gyntaf o Gymru i ennill medal paffio yn 2018.


© 2025 Team Wales