Nofio
G | S | B | Total |
---|---|---|---|
7
|
10
|
16
|
33
|
Mae nofwyr yn cystadlu mewn 4 dull gwahanol yn y Gemau; y rhain yw dull rhydd, dull cefn, dull broga a dull pili-pala. Mae nofio yn gamp graidd ac mae wedi’i gynnwys yn y rhaglen chwaraeon ers Gemau’r Ymerodraeth cyntaf yng Nghanada, 1930. Jazz Carlin yw’r nofiwr sydd wedi ennill y nifer fwyaf o fedalau mewn Gemau, gan ennill 2 fedal yn 2010, gan ddod y fenyw gyntaf mewn 80 mlynedd i ennill medal nofio Cymru mewn Gemau. Hefyd, yn 2014, enillodd fedal aur nofio cyntaf i fenywod mewn 40 mlynedd.
Ers y digwyddiad agoriadol yn Hamilton, Canada yn 1930, mae Cymru wedi ennill cyfanswm o 33 o fedalau yn y pwll sy’n cynnwys saith medal aur. Bydd Birmingham yn gweld tîm o 20 o nofwyr ar draws yr holl ddigwyddiadau gyda’r Pencampwyr Olympaidd Matthew Richards a Daniel Jervis yn cystadlu yn y pwll. Mae Pencampwraig Bresennol y Gymanwlad, Alys Thomas, yn dychwelyd wrth iddi anelu at gadw ei theitl yn y 200m pili-pala, a sicrhaodd record y Gemau wrth ennill y teitl hwnnw.