Gymnasteg

G S B Total
1
10
4
15

Mae dau fath o ddisgyblaeth gymnasteg yng Ngemau’r Gymanwlad; Artistig a Rhythmig. Mae gymnasteg artistig yn gamp graidd yn y Gemau, a gyflwynwyd gyntaf yn 1978. Mae dynion a menywod yn cystadlu yn y ddisgyblaeth Artistig a menywod yn unig sy’n cystadlu mewn gymnasteg rythmig (a gyflwynwyd gyntaf yn 1990).

Cewch eich swyno gan gymnasteg Rythmig wrth iddynt berfformio trefnau di-ffael, llyfn a chain. Gyda digwyddiadau unigol, cyffredinol a thîm, bydd gymnasteg Rythmig yn cael ei dangos ar draws pedwar cyfarpar; pêl, cylchyn, rhuban a chlybiau. Yn ei thrydedd Gemau a’r olaf yng Nglasgow, enillodd Francesca Jones record o chwe medal, gan gynnwys aur yn y gystadleuaeth rhuban. Yn 2018, sicrhaodd Laura Halford unig fedal Rythmig Cymru gydag arian gwych yn y cylchyn.

Mae’r ddisgyblaeth artistig yn gweld athletwyr yn llamu ac yn hedfan ymhlith ystod o gyfarpar megis y llofnaid, bariau anwastad, ceffyl pommel a’r trawst cydbwysedd. Mae Cymru wedi ennill cyfanswm o bum medal artistig ers 1994, gyda Sonia Lawrence yn ennill medal gyntaf Cymru yn y digwyddiad gydag arian yn y llofnaid yn Victoria, Canada.


© 2025 Team Wales