Deifio
G | S | B | Total |
---|---|---|---|
1
|
1
|
1
|
3
|
Mae deifio wedi bod yn gamp graidd yn rhaglen y Gymanwlad ers 1930. Bydd y rhaglen yn gweld athletwyr yn deifio oddi ar y byrddau 1m, 3m a 10m gyda’u sgil ysblennydd. Yn 2018 gwelwyd deifiwr cyntaf Cymru o’r Gymanwlad ers dros 20 mlynedd. Cynrychiolodd Aidan Heslop, sy’n 15 oed, Gymru ar yr Arfordir Aur yn y sbringfwrdd 3m a’r platfform 10m. Heslop oedd y deifiwr cyntaf ers i Bob Morgan gystadlu yn ei 5ed Gemau yn 1998 a bydd yn dychwelyd i Firmingham. Mae Cymru wedi ennill cyfanswm o dair medal yn eu hanes (1986, 1990 a 1994).