Sarah Jones 

Hoci

“Ar ôl cynrychioli Cymru mewn tair o Gemau’r Gymanwlad, rydw i wrth fy modd fy mod nawr yn cael y cyfle i siapio Victoria 2026 ar gyfer athletwyr Tîm Cymru.

Does dim teimlad tebyg i gynrychioli Tîm Cymru ac rydw i bob amser mor falch o’r awyrgylch y mae Comisiwn yr Athletwyr yn helpu i’w greu. O ran y dyfodol, rwy’n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â grŵp gwych o athletwyr o amrywiaeth o gampau a defnyddio ein profiad i greu Gemau’r Gymanwlad gofiadwy a llwyddiannus i Gymru.”

© 2025 Team Wales