Lauren Scobie
Graddiodd Lauren o Brifysgol De Cymru yn 2022 gyda gradd Anrhydedd BSc mewn Gwaith Fforensig Cyfrifiadurol a Gradd MSc mewn Gwaith Fforensig Cyfrifiadurol yn 2024.
Yn 2021, ymunodd Lauren â Thîm Cymru fel intern TG am y flwyddyn i helpu gyda Gemau’r Gymanwlad Birmingham 2022. Yn ystod ei hinterniaeth, bu Lauren yn gyfrifol am gasglu a chyflenwi’r archeb ar gyfer cit Tîm Cymru, gan reoli amrywiaeth o systemau gwahanol, ynghyd â chynorthwyo gyda diwrnod dosbarthu’r cit.
Yn dilyn y Gemau hyn, mae hi bellach yn aelod parhaol o staff Tîm Cymru, yn gweithio fel Cynorthwyydd y Gemau.