Gareth Davies
Mae gan gyn-Gadeirydd Undeb Rygbi Cymru gyfoeth o brofiad arwain llwyddiannus ar y lefel uchaf, gan gynnwys ei rôl bresennol fel Cyfarwyddwr Cwpan Rygbi’r Byd, Deon Prifysgol Leeds, Pennaeth Busnes Rhyngwladol Cymru dros Lywodraeth Cymru yn Awstralia a Seland Newydd, Golygydd Comisiynu S4C a Phennaeth Chwaraeon BBC Cymru.
Mae chwaraeon wedi dylanwadu’n fawr ar ei yrfa, ac mae ganddo CV nodedig sy’n cynnwys llwyddiant domestig a rhyngwladol gyda Rygbi, ar ôl chwarae i Glwb Rygbi Caerdydd, ennill 21 cap dros Gymru a theithio gyda Llewod Prydain ac Iwerddon yn Ne Affrica, 1980.