Cathy Williams

Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Graddiodd Cathy o Brifysgol Metropolitan Caerdydd gyda gradd BSc Anrhydedd mewn Datblygu Chwaraeon ac aeth ymlaen i fod yn Hyfforddwr Personol ac Athrawes Addysg Gorfforol cyn symud i Newyddiaduraeth Darlledu Chwaraeon. Mae hi wedi rhoi sylw i nifer o ddigwyddiadau chwaraeon rhyngwladol yn ystod ei gyrfa Ddarlledu, gan gynnwys Gemau’r Gymanwlad, Glasgow 2014.

Ymunodd â Gemau’r Gymanwlad Cymru yn 2016 fel Rheolwr Gemau, rheoli prosiect Gemau Ieuenctid y Gymanwlad, Bahamas 2017, Ras Gyfnewid Baton y Frenhines 2017 a Gemau’r Gymanwlad, Arfordir Aur 2018.

Yn dilyn Gemau 2018 fe’i dyrchafwyd yn Bennaeth Ymgysylltu, gan oruchwylio’r holl gyfryngau, ymgysylltu allanol a rheoli logisteg a gweithrediad.

© 2025 Team Wales