Bowls

Ni allai Diwrnod 5 fod wedi dechrau’n llawer gwell i Dîm Cymru, er cafwyd isafbwyntiau ac uchafbwyntiau emosiynol yn ystod gêm medal efydd Para-Barau Bowls Cymysg B2-B3. Chwaraeodd Julie Thomas a Steffan James ornest hollol anhygoel. Er iddynt fod ar ei hôl hi o un set daethant yn ôl i ennill y fedal Efydd wrth i Steffan gynhyrchu ergyd wirioneddol arwrol gyda phêl olaf Cymru i drechu gwrthwynebwyr cryf o Seland Newydd.

Amy Williams a Lauren Gowen oedd y nesaf ar y rinc, gan chwarae Gogledd Iwerddon ar gyfer yr efydd ym Mharau’r Menywod. Chwaraeodd y ddau dîm yn wych mewn gêm llawn tensiwn, gyda Chymru ynddi tan y diwedd wrth i Ogledd Iwerddon estyn eu mantais ym mhumed pen yr ail set. Serch hynny, mae gorffen yn y 4ydd safle i Amy a Lauren yn eu gemau cyntaf yng Ngemau’r Gymanwlad yn gamp anhygoel, ac mae’r daith wedi bod yn fythgofiadwy iddyn nhw.

Gwelodd Diwrnod 5 hefyd Amy Williams yn cychwyn ar ei hymgyrch Senglau Menywod yn Adran C, gan wynebu Nayanmoni Saikia o India gan ddechrau’n dda gyda buddugoliaeth gadarn o 2-0.

Dechreuodd Dan Salmon, Cludwr Baton Tîm Cymru, ei ymgyrch yng Ngemau’r Gymanwlad ochr yn ochr â’i bartner ym Mharau’r Dynion, Ross Owen yn y prynhawn, gan ddechrau Adran A gyda buddugoliaeth gyfforddus o 2-0 dros Niue.

Athletau

Dechreuodd Charlotte Henrich i Dîm Cymru ar y trac, gan redeg yn wych yn rhagrasys 400m y Menywod i ddod yn drydydd a sicrhau ei lle yn y rownd gynderfynol. Roedd Justin Davies hefyd ar y trac am y tro cyntaf yn Glasgow 2026, gan ddod yn 8fed yn rhagrasys 800m y Dynion a sicrhau ei le yn y rownd gynderfynol.

Yn y sesiwn gyda’r nos, roedd Jeremiah Azu yn rownd gynderfynol 100m y Dynion a rhedodd ei amser gorau o’r tymor o 10.00 i sicrhau lle yn y rownd derfynol, lle daeth yn bumed.

Nofio

Cafwyd sawl rhagras yn y rownd gynderfynol yn sesiwn y bore ar gyfer Tîm Cymru, gyda Lewis Fraser yn mynd drwodd yn y 50m Pili Pala y Dynion, gyda Meghan Higgs a Theodora Taylor yn llwyddo yn y rhagrasys 50m Dull Rhydd y Menywod, a Jack Knight yn cyrraedd rowndiau cynderfynol 100m Dull Cefn y Dynion.

Yn rownd gynderfynol Pili Pala 50m y Dynion, daeth Lewis yn gyfartal wythfed gydag Abduljabar Adama o Nigeria, gan golli allan ar y rownd derfynol wrth iddo golli mewn ras ychwanegol i’r ddau i benderfynu ar yr wythfed safle.

Yn y cyfamser, gorffennodd Theodora yn chweched yn 50m Dull Rhydd y Menywod, gan sicrhau lle yn y rownd derfynol, gyda Meghan yn 11eg; a gorffennodd Jack ei rownd gynderfynol 50m Cefn y Dynion yn y 14eg safle.

Roedd Ela Letton-Jones yn ôl yn y pwll ar ôl hawlio Arian yn y S13 100m Dull Rhydd i Fenywod ar Ddiwrnod 1. Hwyliodd drwy’r rhagrasys i gyrraedd rownd derfynol Dull Rhydd 50m s13 y Menywod, lle nofiodd ei hamser gorau a gosod record Cymru newydd o 29.55 ar ei ffordd i’r pumed safle.

Daeth uchafbwynt y diwrnod yn y pwll yn hwyr wrth i Matt Richards gamu i fyny ar gyfer 100m Dull Rhydd y Dynion, gan nofio 47.64 gwych i hawlio Arian.

Bocsio

Daeth ymgyrch Helen Jones yng Ngemau’r Gymanwlad i ben yng nghategori 54kg i Fenywod wrth iddi gael ei threchu yn erbyn Lauren Mackie o Loegr.

Roedd Connor Williams wrthi hefyd gyda’r gobaith o symud ymlaen i rownd gynderfynol 90kg y Dynion, a gwnaeth hynny i warantu medal Efydd iddo’i hun o leiaf wrth iddo guro Duken Holo Tutakitoa-Williams o Niue trwy benderfyniad hollt.

Gymnasteg Artistig

Roedd Ruby Evans mewn dwy rownd derfynol ar Ddiwrnod 5, gan ddod yn seithfed yn rownd derfynol Trawst y Menywod cyn ei moment yn rownd derfynol Llawr y Menywod, lle sicrhaodd ei pherfformiad syfrdanol gyfanswm o 13.500 a medal aur gyntaf Tîm Cymru yn Glasgow 2026.

Cystadlodd Elliot Vernon yn rownd derfynol Bariau Cyfochrog y Dynion, gan orffen yn y seithfed safle, a sicrhaodd Alex Niscoveanu yr un safle yn rownd derfynol Bar Llorweddol y Dynion.

Codi pwysau

Charlotte Whalley oedd y codwr cyntaf o Dîm Cymru ar Ddiwrnod 5, gan gyflawni ei gorau yn y plwc o 104kg ar ei ffordd i orffen yn 8fed yng nghategori 63kg y Menywod.

Roedd Chloe Hood wrthi hefyd ar Ddiwrnod 5, yng nghategori 69kg y Menywod, gan ddod yn nawfed gyda chyfanswm o 190kg.

Pêl-rwyd

Cafodd y tîm pêl-rwyd eu buddugoliaeth gyntaf yn y Gemau, gan guro Trinidad a Tobago 74-30.

Pêl-fasged Cadair Olwyn 3×3

Roedd Pêl-fasged Cadair Olwyn Dynion Tîm Cymru 3×3 yn wynebu tîm llwyddiannus Awstralia yn eu gêm Gymhwyso (Play-In) i gyrraedd y rownd gynderfynol ac roedd pethau’n edrych yn addawol ar ôl dau bwynt cynnar Dan May. Fodd bynnag, daeth y cylch yn anodd ei guro i’n chwaraewyr ac fe wnaethon nhw adael y gystadleuaeth gyda cholled o 21-6, ond gallant edrych yn ôl ar eu Gemau’r Gymanwlad cyntaf gyda’r balchder mwyaf.

Aeth tîm Pêl-fasged Cadair Olwyn 3×3 y Menywod i mewn i’w gêm Gymhwyso ar ôl rhoi perfformiad cyson trwy gydol eu Grŵp, er gwaethaf colli yn y drydedd gêm a’r olaf. Yn wynebu Canada, a oedd wedi cael un fuddugoliaeth yng Ngrŵp A, fe wnaethon nhw ddechrau’n gryf ond methu â chroesi’r llinell wrth iddyn nhw golli 21-3; fel tîm y dynion, fodd bynnag, dylen nhw fod yn falch o’r hanes maen nhw wedi’i greu yn Glasgow 2026.