Carfan Tîm Cymru yn cynyddu i 115 o athletwyr cyn Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow 2026.
Gall Tîm Cymru gadarnhau heddiw fod y codwr pwysau Charlotte Whalley wedi derbyn slot Cymhwyster (Ailddyrannu) ar gyfer Gemau’r Gymanwlad Glasgow 2026.
Mae’r slot wedi’i ddyrannu i Dîm Cymru, yn rhwymedig i’r gamp o Godi Pwysau ac yn benodol i Charlotte, ac i’r categori pwysau corff penodol, gyda Charlotte yn sicrhau ei lle yng nghystadleuaeth 63kg y menywod.
Charlotte yw’r 115fed athletwr a ddewiswyd i Dîm Cymru ar gyfer Glasgow 2026, gan ymuno â’r 114 athletwr a gyhoeddwyd yn flaenorol ddydd Gwener Mehefin 19.
Mae’r broses ailddyrannu yn sicrhau bod unrhyw leoedd cymhwyso heb eu defnyddio yn cael eu dyfarnu i’r athletwyr cymwys uchaf nesaf sydd wedi cyflawni’r safonau perfformiad rhyngwladol gofynnol.
Dywedodd Gethin Jones, Chef de Mission Tîm Cymru; “Llongyfarchiadau Charlotte! Pleser yw croesawu Charlotte Whalley i Dîm Cymru ar gyfer Glasgow 2026. Mae ei chymhwyster yn haeddiannol iawn ac mae’n dyst i’w chysondeb, ei hymrwymiad a’i pherfformiadau trwy gydol y cyfnod cymhwyso.
“Mae cyrraedd 115 o athletwyr yn garreg filltir arwyddocaol i Dîm Cymru ac yn dangos cryfder a dyfnder y dalent sydd gennym ar draws chwaraeon Cymru. Edrychwn ymlaen at gefnogi Charlotte wrth iddi wneud ei hymddangosiad cyntaf ar lwyfan y byd.”
Ychwanegodd Simon Roach, Prif Swyddog Gweithredu Codi Pwysau Cymru; “Llongyfarchiadau i Charlotte ar gael ei dewis ar gyfer Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad Glasgow 2026.
Trwy gydol y cyfnod cymhwyso, cynrychiolodd Charlotte Gymru gyda rhagoriaeth a chyflwynodd berfformiadau cryf ar bob cyfle rhyngwladol.
Mae’r broses gymhwyso wedi bod yn hynod gystadleuol ac, i fod mewn sefyllfa i elwa o’r broses ailddyrannu derfynol, mae’n rhaid i chi ennill y cyfle hwnnw yn gyntaf. Yn sicr, gwnaeth Charlotte hynny, gan gyflawni’r safon ryngwladol angenrheidiol trwy ei pherfformiadau, ei chysondeb a’i hymroddiad trwy gydol y cyfnod cymhwyso.
Mae pawb yn Codi Pwysau Cymru yn hynod falch o Charlotte, ac edrychwn ymlaen at ei gweld yn cynrychioli Cymru ar lwyfan y Gymanwlad.”
Bydd Tîm Cymru nawr yn parhau i baratoi ar gyfer pob un o’r 10 camp wrth i’r cyfrif i lawr i Glasgow 2026 barhau, gyda’r Gemau yn dechrau ar 23 Mehefin.
Tîm Cymru – Glasgow 20206
Athletau:
Abigail Pawlett
Adele Nicoll
Aled Davies
Amber Simpson
Ava Lloyd
Bree Cronin
Cari Hughes
Charlotte Henrich
Ellie Bowen
Fumni Oduwaiye
Harrison Walsh
Isabelle Boffey
Jake Heyward
Jeremiah Azu
Justin Davies
Melissa Courtney-Bryant
Olivia Breen
Thomas Walley
Bowlio:
Amy Williams
Daniel Salmon
Jamie Jones (Cyfarwyddwr)
John Wilson (Cyfarwyddwr)
Julie Thomas
Lauren Gowen
Ross Owen
Steffan James
Bocsio:
Connor Williams
Daniel Pitt
Helen Jones
Niamh Brookes
Orlando Holley-Sotomi
Owain Harris-Allen
Rosie Eccles
Beicio Trac:
Anna Morris
Carys Lloyd
Ciara Oliva
Emma Finucane
Ioan Hepburn
James Ball
Jessica Roberts
Jonah Jenkins
Lewis Oliva
Lowri Thomas
Matthew Rotherham (Peilot)
Megan Barker
Rhian Edmunds
Rhys Britton
Rory Gravelle
Steffan Lloyd
William Perrett
William Roberts
William Salter
Gymnasteg Artistig:
Abigail Roper
Alexander Niscoveanu
Elliot Vernon
Emily Roper
Frances Stone
Henry Lewis
Jacob Edwards
Jemima Taylor
Joe Cemlyn-Jones
Ruby Evans
Judo:
Ashleigh Barnikel
Ben Moore
Holly Devall
Joshua Bell
Joshua Whitehouse
Lola Hodson
Millie Bayliss
Oliver Barrett
Nofio:
Alexandra Bastone
Amy Crowley
Dan Jones
Dylan Broom
Ela Letton-Jones
Harry Milne
Jack Knight
Joshua Inglis
Kieran Bird
Kyle Booth
Lewis Fraser
Matthew Richards
Medi Harris
Meghan Higgs
Meghan Willis
Rebecca Sutton
Rhys Darbey
Rose Williams
Sophie Davies
Theodora Taylor
Tyler Melbourne-Smith
Codi pwysau:
Catrin Haf Jones
Charlotte Whalley
Cloe Hood
James Wales
Laura Hughes
Madaline Connelly
Nikole Roberts