Heddiw, mae Tîm Cymru wedi cyhoeddi’r 12 athletwr sydd wedi’u dewis i gynrychioli Cymru mewn Pêl-rwyd yng Ngemau’r Gymanwlad Glasgow 2026, a gynhelir rhwng 23 Gorffennaf a 2 Awst 2026.
Bydd y tîm yn cystadlu yn erbyn rhai o genhedloedd pêl-rwyd cryfaf y byd wrth iddyn nhw anelu at adeiladu ar enw da cynyddol Cymru ar y llwyfan rhyngwladol ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr ledled y wlad.
Mae Cymru wedi cael ei dewis yng Ngrŵp B ochr yn ochr â Seland Newydd, Jamaica, Uganda, yr Alban a Trinidad a Tobago, ac mae’n argoeli y bydd y gemau grŵp yn gyffrous ac yn hynod gystadleuol.
Y garfan a ddewiswyd yw:
Lowri Windsor
Alex Johnson
Poppy Tydeman
Vicky Booth
Nansi Kuti
Caris Morgan
Megan Pilkington
Zoe Matthewman
Phillipa Yarranton
Bethan Dyke
Leah Middleton
Georgia Rowe
Mae’r tîm yn cyfuno chwaraewyr rhyngwladol profiadol â thalent gyffrous ifanc, gan adlewyrchu’r camau bras y mae Pêl-rwyd Cymru wedi parhau i’w gwneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn 2025, cyflawnodd Plu Cymru garreg filltir hanesyddol trwy dorri trwodd i 6 Uchaf Pêl-rwyd y Byd am y tro cyntaf. Sicrhaodd y safle byd hwnnw eu bod yn ennill eu lle’n awtomatig yng Ngemau’r Gymanwlad Glasgow 2026, gan bwysleisio cynnydd parhaus y tîm ar y llwyfan rhyngwladol.
Mae gan Gymru hanes balch yng Ngemau’r Gymanwlad ym maes pêl-rwyd, gan sicrhau’r safle gorau erioed ym Manceinion yn 2002, lle daeth y tîm yn chweched. Yng Ngemau’r Gymanwlad Birmingham 2022, gorffennodd Cymru yn wythfed ar ôl buddugoliaethau trawiadol dros yr Alban a Barbados yn y gemau grŵp cyn colli allan o drwch blewyn ar y seithfed safle ar ôl colli i Malawi yn y gêm ddosbarthu (classification match).
Mae’r garfan hefyd yn adeiladu ar waddol o berfformiadau cofiadwy, gan gynnwys gosod record sgorio goliau Gemau’r Gymanwlad yn erbyn Sri Lanka yn 1998 a chynhyrchu perfformiad a oedd yn torri record yn erbyn pwerdy pêl-rwyd Seland Newydd yng Ngemau’r Gymanwlad yr Arfordir Aur 2018. Mae’r cyflawniadau hyn yn adlewyrchu twf ac uchelgais parhaus Pêl-rwyd Cymru wrth iddi baratoi ar gyfer cyfle arall ar lwyfan y Gymanwlad.
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Pêl-rwyd Cymru, Sarah Bosswell, “Mae heddiw’n ddiwrnod hynod falch i bêl-rwyd Cymru wrth i ni gyhoeddi’r athletwyr a fydd yn gwisgo gwisg Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad.
Cynrychioli’ch gwlad yw un o’r anrhydeddau mwyaf mewn chwaraeon, ac mae pob athletwr a ddewiswyd wedi ennill y cyfle hwnnw trwy flynyddoedd o ymrwymiad, aberth a gwytnwch. Yr hyn sy’n gwneud y grŵp hwn hyd yn oed yn fwy rhyfeddol yw bod ein chwaraewyr yn cydbwyso gyrfaoedd amser llawn, addysg ac ymrwymiadau teuluol ochr yn ochr â chystadlu ar y lefel uchaf o bêl-rwyd ryngwladol.
Y tu ôl i bob athletwr mae rhwydwaith anhygoel o deulu, ffrindiau, hyfforddwyr, cyflogwyr a chyd-chwaraewyr y mae eu cefnogaeth gadarn wedi helpu i wireddu’r foment hon. Mae eu cyfraniad yn aml yn anweledig, ond mae’n amhrisiadwy, ac rydym yn diolch i bob un ohonynt am gredu yn ein chwaraewyr a’r daith maen nhw arni.
Fel cenedl, rydyn ni bob amser wedi cyflawni y tu hwnt i bob disgwyl, ac mae’r garfan hon yn ymgorffori popeth sy’n gwneud chwaraeon Cymru mor arbennig: balchder, angerdd, gwytnwch ac ymrwymiad cadarn i’r wisg goch. Rydyn ni’n gwybod y bydd Cymru gyfan yn eu cefnogi nhw wrth iddyn nhw baratoi i gystadlu ar un o’r llwyfannau mwyaf yn chwaraeon y byd.
Llongyfarchiadau i bob athletwr a ddewiswyd. Rydych chi’n ysgwyddo nid yn unig ein gobeithion, ond balchder y genedl.”
Croesawodd Chef de Mission Tîm Cymru, Gethin Jones, y cyhoeddiad, gan ddweud: Llongyfarchiadau i bob athletwr a ddewiswyd ar gyfer carfan pêl-rwyd Tîm Cymru. Maen nhw’n grŵp anhygoel, sy’n cefnogi ei gilydd ar y cwrt ac oddi arno. Mae cyrraedd Gemau’r Gymanwlad yn wobr am flynyddoedd o waith caled, ymroddiad ac aberth. Mae pêl-rwyd yn parhau i chwarae rôl bwysig o fewn Tîm Cymru, ac rwy’n gwybod y bydd y TÎM hwn yn cynrychioli’r genedl gyda balchder, angerdd a phenderfyniad. Rydyn ni’n edrych ymlaen at eu gweld yn cystadlu yn Glasgow yr haf hwn.”
Gyda grŵp heriol o’u blaenau, safle byd hanesyddol a chymysgedd o brofiad a thalent gyffrous, mae Tîm Cymru yn mynd i Glasgow 2026 yn benderfynol o barhau â’i lwyddiant cynyddol ar y llwyfan rhyngwladol.
Bydd Gemau’r Gymanwlad Glasgow 2026 yn cael eu cynnal rhwng 23 Gorffennaf a 2 Awst, gyda Thîm Cymru yn cystadlu ar draws 10 camp wrth i’r genedl ddod ynghyd i gefnogi ei hathletwyr ar lwyfan y byd.