Codi Pwysau

G S B Total
19
12
22
53

Bydd cystadleuwyr cryfaf y Gymanwlad yn dod at ei gilydd ym Mirmingham, gydag athletwyr wedi’u rhannu’n gategorïau pwysau corff. Bydd pob athletwr yn perfformio tri chodiad, y cipiad (snatch) a’r clean a jerk. Y ddisgyblaeth yw un o gampau cryfaf Cymru yn hanes y Gymanwlad. Ers 1954, mae’r genedl wedi dod â 53 o fedalau adref yn y gamp. Dave Morgan MBE, oedd enillydd 12 o fedalau’r Gymanwlad hyn i gyd ac mae ei enw mewn hanes fel yr unig athletwr i ddod yn Bencampwr mewn pum gwahanol Gemau’r Gymanwlad; gyda record ragorol o 9 medal Aur a 3 medal Arian i’w enw. Daeth tîm Cymru â dwy fedal adref o’r Arfordir Aur, gyda Gareth Evans yn ennill medal aur gyntaf Cymru yn y Gemau.


© 2025 Team Wales