Athletau

G S B Total
0
0
0
0

Bydd Athletau ym Mirmingham 2022 yn cynnwys rhaglen orlawn o ddigwyddiadau gyda 59 o fedalau, gan gynnwys rhaglen Para Chwaraeon cwbl integredig. Mae athletau wedi ymddangos ym mhob un o Gemau’r Gymanwlad sy’n dyddio’n ôl i 1930. Ers hynny, mae Tîm Cymru wedi cronni cyfanswm o 54 o fedalau ar draws yr holl ddigwyddiadau. 1986 oedd Gemau mwyaf llwyddiannus Cymru ar y trac, gan ddod ag wyth medal adref oedd yn cynnwys aur dwbl i Kirsty Wade yn yr 800m a’r 1500m.

Yn 2006 enillodd Cymru eu medal para athletau cyntaf trwy Beverley Jones, a ddaeth yn drydydd yn y 100m T37. Mae para-athletwyr Cymru wedi bod ar y podiwm ym mhob Gemau ers hynny, ac mae eleni yn cynnwys mwy o bara-ddigwyddiadau nag erioed. Mae’r Pencampwr Paralympaidd Aled Siôn-Davies yn dychwelyd am y tro cyntaf ers 2014, yn y gobaith o droi ei arian yn aur. Mae Tîm Cymru wedi enwi tîm cryf o 23 o bobl yn barod i fynd amdani yn Stadiwm Alexander.



© 2025 Team Wales