Tîm Cymru yn sicrhau lle yng nghystadlaethau Tennis Bwrdd yn Birmingham!
Mae Tennis Bwrdd Cymru wedi sicrhau eu lle yn Birmingham yn nigwyddiad Senglau’r Dynion a Thîm y Merched yng Ngemau’r Gymanwlad yr haf hwn.
Cynhelir y digwyddiad Tennis Bwrdd a Thennis Bwrdd Para yn yr NEC (National Exhibition Centre) ar ddiwrnod cyntaf y gystadleuaeth ar 29 Gorffennaf 2022.
Mae’r tîm, sydd ar hyn o bryd yn rhif 75 yn y Byd, yn gobeithio adeiladu ar eu llwyddiant 4 blynedd yn ôl yn yr Arfordir Aur, gyda Charlotte Carey, Chloe Thomas ac Anna Hursey yn arwain y digwyddiad tîm. Mae’r un chwaraewyr ar y rhestr hir ar hyn o bryd yn gobeithio cael eu dewis eto’r haf hwn.
Meddai Rhian Pearce, Prif Swyddog Gweithredol Tennis Bwrdd Cymru; “Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod y tîm merched a Callum Evans wedi ennill eu lle ar gyfer Gemau’r Gymanwlad Birmingham 2022. Rydyn ni wedi canolbwyntio ar adeiladu ar ein cyflawniadau yng Ngemau’r Arfordir Aur ac rwy’n falch o’r ymrwymiad a’r gwydnwch y mae ein hyfforddwyr a’n chwaraewyr wedi’u dangos dros y blynyddoedd diwethaf, er gwaethaf heriau’r pandemig. Mae cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn anrhydedd enfawr i’n chwaraewyr ac mae gwneud hyn mewn ‘gemau cartref’ yn Birmingham yn golygu y gallan nhw rannu’r foment hon gyda mwy o deulu a ffrindiau. Mae paratoadau ar y gweill ar gyfer rhaglen ddwys o hyfforddiant a chystadlu i roi’r cyfle gorau i’r chwaraewyr lwyddo.”
Gorffennodd Tîm Cymru’n seithfed yn y Gemau diwethaf ar yr Arfordir Aur yn 2018, a chyda thîm o faint tebyg yn mynd i Birmingham, maen nhw’n gobeithio efelychu’r llwyddiant a gawsant 4 blynedd yn ôl;
Dywedodd Chef de Mission Tîm Cymru Nicola Phillips ”Mae ein gweld yn dechrau cyhoeddi’r chwaraeon sydd wedi cymhwyso yn gyffrous. Rydyn ni wedi gweld Hoci a Phêl-rwyd yn gwneud hynny’n barod a heddiw yw tro Tennis Bwrdd i fynnu’r sylw. Cawsant effaith mor gadarnhaol yn y Gemau diwethaf, a chyda safon yr athletwyr sydd ganddyn nhw eto eleni, rwy’n edrych ymlaen at weld beth allan nhw ei wneud ymhen ychydig fisoedd.”
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Gemau’r Gymanwlad, Chris Jenkins Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Gemau’r Gymanwlad, Chris Jenkins, ”Mae’n anodd credu bod y seremoni agoriadol yn Awstralia wedi’i chynnal 4 blynedd yn ôl i heddiw, a heddiw rydyn ni’n dechrau cyhoeddi timau ac athletwyr ar gyfer Birmingham. Mae Tennis Bwrdd Cymru wedi cadw eu ffocws drwy gydol y cyfnod heriol hwn ac mae’r ffaith eu bod wedi ennill eu lle yn y Gemau yn dangos eu cryfder a’u hymrwymiad. Hoffem longyfarch Tennis Bwrdd Cymru ar sicrhau eu lle i fod yn rhan o Dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad unwaith eto.”
Gallwch ddilyn taith Tîm Cymru i Birmingham 2022 ar draws eu sianeli cyfryngau cymdeithasol Teamwales.cymru / @TeamWales / #TeamWales #TîmCymru