Team Wales appointments build towards Gold Coast Commonwealth Games
Mae paratoadau Tîm Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad 2018 ar yr Arfordir Aur yn Awstralia wedi hen gychwyn, a heddiw fe gyhoeddwyd y ddau benodiad diweddaraf i’r Tîm.
Heddiw, cyhoeddodd Gemau’r Gymanwlad Cymru bod Dr Gareth Jones wedi ei benodi’n Brif Swyddog Meddygol a Sian Knott fel y Prif Ffisiotherapydd. Bydd y ddau yn gweithio gyda Thîm Cymru cyn, yn ystod ac ar ôl y Gemau. Bydd Gareth yn gyfrifol am arwain ac yn rheoli’r Tîm Gwasanaethau Meddygol, ac yn gweithio’n agos gyda Sian ar ddatblygu cynllun i staff meddygol Tîm Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad yn y dyfodol.
Meddai Chris Jenkins, Prif Weithredwr Gemau’r Gymanwlad Cymru: “Rydyn ni’n estyn croeso cynnes iawn i Gareth a Sian a hynny mewn cyfnod hynod gyffrous i chwaraeon yng Nghymru. Mae’r ddau ohonyn nhw’n hynod brofiadol a brwdfrydig. Mae’r ddwy rôl yma yn bwysicach nag erioed i Dîm Cymru, gan fod Bwrdd Gemau’r Gymanwlad Cymru yn datblygu cynlluniau arloesol ar gyfer gwasanaethau meddygol cefnogol yng Ngemau’r Gymanwlad.”
Bydd Gareth a Sian yn gweithio’n agos gyda Chef de Mission Tîm Cymru yn Awstralia, yr Athro Nicola Phillips. Mae Gareth wedi gweithio fel Prif Swyddog Meddygol mewn nifer o Gemau’r Gymanwlad, mae’n Athro Gwadd ym Mhrifysgol De Cymru, yn Ffisegydd Chwaraeon gyda Gleision Caerdydd ac roedd yn feddyg yn ystod gemau Cwpan Rygbi’r Byd y llynedd. Mae Sian yn Brif Ffisiotherapydd gyda Chwaraeon Cymru a newydd ddychwelyd o’r Gemau Olympaidd yn Rio. Ers 2007 mae wedi bod yn helpu rhai o athletwyr mwyaf llwyddiannus Cymru, mae’n gweithio gyda Rygbi 7 Bob Ochr Cymru ac wedi bod yn rhan o 4 Gemau’r Gymanwlad yn barod.
Meddai Gareth: “Rwyf wedi cael y pleser o fod yn rhan o’r tîm meddygol ar gyfer Gemau’r Gymanwlad bedair gwaith, tri thro fel Prif Swyddog Meddygol. Mae’n hyfryd bod yn ôl gyda Thîm Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad 2018. Rwy’n edrych ymlaen at barhau i gynnig y gefnogaeth orau bosibl i’n hathletwyr a staff cefnogol. Bydd adnabod a mentora meddygon y dyfodol ar gyfer y tîm meddygol yng Ngemau Durban a thu hwnt yn rhan bwysig o fy rôl fel Prif Swyddog Meddygol ac edrychaf ymlaen at yr her honno.”
Meddai Sian: “Rwy’n hynod falch o gael fy mhenodi yn Brif Ffisiotherapydd ar gyfer yr Arfordir Aur – rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Nicky Phillips fel Chef De Mission a Dr Gareth Jones fel y Prif Swyddog Meddygol. Alla i ddim disgwyl i gychwyn dethol gweddill y tîm therapi er mwyn medru cefnogi ein hathletwyr yn y ffordd orau bosibl.