Our partnership with USW goes from strength to strength

Mae partneriaeth Gemau Gymanwlad Cymru a Phrifysgol De Cymru wedi bod yn llwyddiannus ers nifer o flynyddoedd, gan gynnig cyfleoedd unigryw a chyffrous i fyfyrwyr weithio ar wahanol brosiectau Tîm Cymru fel Ras Gyfnewid Baton y Frenhines, Diwrnod y Gymanwlad, ymgysylltu ag ysgolion a Gemau'r Gymanwlad! Cynigir ein rhaglen interniaeth i fyfyrwyr israddedig llwyddiannus o Brifysgol Cymru, gan roi cyfle iddynt ddatblygu sgiliau allweddol a gwella eu cyflogadwyedd.

Rydym nawr yn gyffrous i gyhoeddi partneriaeth arall gyda USW – rhoi cyfle i fyfyrwyr Meistr ennill profiad ymarferol gyda darpar athletwyr y Gymanwlad, gan ddarparu cefnogaeth Cryfder a Chyflyru hanfodol ar draws nifer o chwaraeon.

Mae myfyrwyr Meistr sy'n astudio Cryfder a Chyflyru a Gwyddor Chwaraeon yn cael cyfle i ddarparu cefnogaeth mewn Badminton, Sboncen, Tenis Bwrdd a Bowlenni Lawnt. Mae'r bartneriaeth hon yn hynod werthfawr i USW a Thîm Cymru ac edrychwn ymlaen at weld ein hathletwyr yn datblygu yn y cyfnod yn arwain lan at Birmingham 2022.

Rydym yn dymuno pob lwc i Nicole a Ruari wrth gefnogi ein hathletwyr a phob lwc yn eu Meistri!

 

 

Os hoffech mwy o wybodaeth, cysylltwch â Cathy Williams ar cathy.williams@teamwales.cymru