Hanes

1930

Cynhaliwyd y Gemau cyntaf yn Hamilton, Canada, sef Gemau Ymerodraeth Prydain bryd hynny. Cymerodd 400 o athletwyr o 11 gwlad ran yn y Gemau, a daeth Tîm Cymru'n seithfed ar y tabl medalau, gyda'r tîm yn ennill 2 fedal arian ac 1 efydd mewn Nofio. Dim ond 7 o'r 18 math o chwaraeon a welwyd ar yr Arfordir Aur yn 2018 a gafwyd yn y Gemau hyn; athletau, bocsio, bowlio lawnt, rhwyfo, nofio, deifio a reslo.


1934

Yn Llundain, cynhaliwyd Gemau'r Ymerodraeth yn 1934. Roedd 16 gwlad yn cystadlu gyda chyfanswm o 500 o athletwyr. Llwyddodd Tîm Cymru i ragori mewn bocsio, gan ennill 3 medal arian ac 1 fedal efydd, yn ogystal â medal efydd mewn bowlio lawnt ac un mewn nofio. Gorffennodd Cymru yn y nawfed safle yn y Gemau hyn.


1938

Yn 1938 gwelwyd 460 o athletwyr o 16 o wledydd yn teithio i Sydney, Awstralia i gystadlu yn y Gemau. Cyflwynodd y Gemau hyn gamp ychwanegol, gan droi'r saith camp wreiddiol yn wyth.  Enillodd Tîm Cymru ei fedalau aur cyntaf yng Ngemau'r Ymerodraeth, mewn athletau a bocsio, gan gynnwys medal arian mewn nofio. Gorffennodd Tîm Cymru'n chweched yn nhabl y medalau.


1950

Oherwydd yr Ail Ryfel Byd, cynhaliwyd y Gemau nesaf yn Auckland, Seland Newydd, a chyflwynwyd dwy gamp newydd, sef cleddyfaeth a chodi pwysau. Cymerodd 590 o athletwyr o 12 gwlad ran yn y Gemau, a daeth Tîm Cymru'n 11eg yn y tabl medalau, gyda'r tîm yn ennill medal arian mewn nofio.


1954

Newidiodd enw'r Gemau yn 1954 yn Vancouver, Canada, o Gemau Ymerodraeth Prydain i "Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad". Cymerodd 660 o athletwyr o 24 gwlad ran, gyda Chymru yn ennill 7 medal (1 aur, 1 arian a 5 efydd). Gorffennodd Cymru'n 12fed yn nhabl y medalau.


1958

Cafodd Cymru'r fraint o gynnal y Gemau am y tro cyntaf!

Am y tro cyntaf yn hanes, Cymru oedd yn gyfrifol am gynnal y Gemau yn 1958.  Gyda'r nifer fwyaf o athletwyr - 1,100 yn cynrychioli 46 o wledydd yn ymweld â Chaerdydd, sicrhaodd Tîm Cymru 11 o fedalau, gan orffen yn nawfed yn nhabl y medalau. Yng Nghymru y dechreuodd Taith Baton y Frenhines hefyd.


1962

Yn 1962, dychwelodd y Gemau i Awstralia (Perth). Enillodd Tîm Cymru fedalau mewn rhwyfo, codi pwysau ac athletau (2 arian a 4 efydd), gan orffen yn y 13eg safle yn nhabl y medalau.


1966

Yn y Gemau yn Kingston, Jamaica, cyflwynwyd badminton a saethu am y tro cyntaf. Enillodd Tîm Cymru 3 medal aur - ei nifer fwyaf, gan orffen yn 11eg yn nhabl y medalau allan o 35 o wledydd. 


1970

Newidiodd Gemau 1970 yng Nghaeredin eu henw o Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad i Gemau'r Gymanwlad Brydeinig. Daeth 1380 o athletwyr o 42 o wledydd i gymryd rhan yn y Gemau, gyda Thîm Cymru yn gorffen yn y 12fed safle ar ôl ennill 2 fedal aur, 4 arian ac 1 efydd ar draws 4 camp (athletau, nofio, bocsio a seiclo). 


1974

Daeth y Gemau i Seland Newydd am yr ail dro. Roedd 1270 o athletwyr a 38 o wledydd yn cystadlu yn Christchurch.  Gorffennodd Cymru yn yr 17eg safle yn nhabl y medalau gyda 10 medal - 1 aur, 5 arian a 4 efydd.


1978

Gwelwyd sawl newid yn y Gemau yn 1978 yng Nghanada.  Dyma'r trydydd tro i Ganada gynnal y Gemau a dyma'r flwyddyn pan newidiodd enw'r Gemau o Gemau'r Gymanwlad Brydeinig i Gemau'r Gymanwlad, sef eu henw hyd heddiw. Cyflwynwyd Mascot cyntaf y Gemau yng Nghanada, ac ychwanegwyd gymnasteg i'r rhaglen o gampau. Gorffennodd Cymru yn y nawfed safle o blith 46 o wledydd, gan ennill 2 fedal aur, 1 arian a 5 efydd. 


1982

Dyma'r trydydd tro i Awstralia gynnal Gemau'r Gymanwlad. Cystadlodd 1580 o athletwyr o 46 o wledydd a daeth Tîm Cymru'n wythfed yn nhabl y medalau. Enillodd Tîm Cymru 4 medal aur, 4 arian, ac 1 efydd mewn athletau, codi pwysau, bowlio lawnt a saethu.


1986

Cynhaliwyd Gemau'r Gymanwlad yng Nghaeredin am yr ail dro ac fe gyflwynwyd nofio cydamserol a rhwyfo i'r rhaglen. Oherwydd boicot gwleidyddol, dim ond 25 gwlad o'r 36 a ddisgwyliwyd, a gymerodd ran. Roedd y Gemau'n gryn lwyddiant i Gymru, wrth i Dîm Cymru ennill 6 medal aur, 5 arian a 12 efydd gan orffen yn bumed i gyd.


1990

Dychwelodd y Gemau i Auckland, Seland Newydd, gyda delwedd newydd, y "gemau cyfeillgar" gyda nifer uwch nag erioed o wledydd yn cymryd rhan. Ychwanegwyd jwdo i'r rhaglen o gampau. Roedd cyfanswm o 2070 o athletwyr o 55 o wledydd. Enillodd Tîm Cymru ei nifer uchaf eto o fedalau aur - 10! Yn ogystal â 3 arian a 12 efydd. Daeth Tîm Cymru yn chweched yn nhabl y medalau oherwydd y llwyddiant ysgubol hwn!


1994

Yn 1994 gwelwyd 2550 o athletwyr o 63 o wledydd yn teithio i Victoria, Canada i gystadlu yn y Gemau. Enillodd Tîm Cymru 5 medal aur, 8 arian, a 6 efydd mewn athletau, saethu, codi pwysau, bowlio lawnt, gymnasteg, deifio, bocsio a seiclo, gan orffen yn anrhydeddus yn y nawfed safle yn nhabl y medalau.


1998

Cynhaliwyd Gemau'r Gymanwlad yn 1998 yn Kuala Lumpur, Maleisia. Yng Ngemau 1998, gwelwyd chwaraeon tîm yn cael eu cyflwyno am y tro cyntaf. Ychwanegwyd hoci, pêl-rwyd a rygbi saith-bob-ochr dynion at raglen y campau. Roedd bowlio deg hefyd yn chwaraeon ychwanegol yng Ngemau 1998.  Gyda 70 o wledydd yn cystadlu, gorffennodd Tîm Cymru yn y degfed safle gan ennill 3 medal aur, 4 arian ac 8 efydd.


2002

Cymerodd y nifer uchaf erioed o wledydd ran yn y Gemau ym Manceinion, sef 72, ac am y tro cyntaf roedd y Gemau'n agored i athletwyr ag anableddau. Y Gemau hyn felly oedd yr unig raglen chwaraeon lwyr gynhwysol mewn hanes. Y chwaraeon para oedd athletau, bowlio lawnt, nofio, tennis bwrdd a chodi pwysau.

Yn ogystal â chyflwyno chwaraeon para, ychwanegodd Gemau Manceinion griced, tennis bwrdd a thriathlon i'r rhaglen. Enillodd Tîm Cymru 21 o fedalau i gyd, gan orffen yn nawfed yn nhabl y medalau.


2006

Melbourne, Awstralia a groesawodd y Gemau am y pedwerydd tro, ac enillodd Tîm Cymru 3 medal aur, 5 arian ac 11 efydd. Am y tro cyntaf mewn hanes, ymwelodd Taith Baton y Frenhines â phob gwlad a thiriogaeth oedd yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad.


2010

Am y tro cyntaf yn hanes Gemau'r Gymanwlad, cynhaliwyd y Gemau yn India.  Croesawyd 4,300 o athletwyr o 71 o wledydd i Delhi, ac am y tro cyntaf, cyflwynwyd saethyddiaeth i raglen y campau. Enillodd Tîm Cymru 3 medal aur, 6 arian a 10 efydd gan orffen yn y 13eg safle. 


2014

Cynhaliwyd Gemau 2014 yn Glasgow, yr Alban, gyda 4900 o athletwyr yn cystadlu. Yn y Gemau hyn roedd y nifer uchaf erioed o fedalau para ar gael (22) gyda seiclo para wedi'i hychwanegu at raglen y campau. Dyma Gemau mwyaf llwyddiannus Tîm Cymru hyd yma, gan ennill eu nifer uchaf o fedalau gyda 5 medal aur, 11 arian ac 19 efydd.


2018

2018 oedd Gemau gorau Cymru erioed!

Llwyddodd Tîm Cymru i ennill yr un nifer o fedalau ag y cafwyd yn Glasgow, ond y tro hwn, enillwyd 10 medal aur, sy'n golygu mai Gemau'r Arfordir Aur yw Gemau mwyaf llwyddiannus Cymru erioed. Gorffennodd Cymru'n seithfed yn nhabl y medalau. Yn y Gemau hyn gwelwyd y rhaglen chwaraeon para fwyaf erioed, gyda nofio, athletau, tennis bwrdd, pŵer godi, triathlon a'r marathon wedi'u cynnwys yn y rhaglen, ac am y tro cyntaf erioed, roedd nifer gyfartal o gyfleoedd i ddynion a merched ennill medalau.  Cyflwynwyd pêl-fasged yn ôl i raglen y campau yn Awstralia, ac am y tro cyntaf cyflwynwyd pêl-foli.

Gwelwyd y nifer mwyaf erioed o athletwyr yn cymryd rhan yng Ngemau 2018, gyda 6500 o athletwyr o 71 o wledydd, ac roedd 228 o'r athletwyr hynny yn aelodau o Dîm Cymru!